Twtio silffoedd, rhannu llyfrau – cystadleuaeth i ennill gwerth dros £100 o lyfrau

Dydd Mawrth, Chwefror 14, 2012, 15:14

Cystadleuaeth

Wrth baratoi’r gyfres nesaf o Pethe, dan ni wedi bod yn tacluso’r silffoedd llyfrau ac wedi penderfynu rhoi pentwr i ffwrdd fel gwobr mewn cystadleuaeth i ddathlu Diwrnod y Llyfr.

Mae pob math o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i ddathlu’r diwrnod ac i hybu darllen.

Rhoi Llyfr yn Anrheg ydi un o’r gweithgareddau gall unrhyw un ei wneud. Mae’r arfer o roi llyfr yn anrheg i rywun yn deillio o Catalunya ac mae hi wedi dod yn boblogaidd yma dros y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd (tan Fawrth 3ydd) mae Cyngor LLyfrau Cymru yn cynnig disgownt ar nifer o lyfrau fel rhan o’r gweithgaredd. Dylen nhw i gyd fod ar gael yn eich siop lyfrau lleol. Wrth gwrs does dim rhaid prynu llyfr newydd i’w roi yn anrheg, byddai rhoi un o’ch llyfrau chi (fel ‘da ni’n ei wneud) yn gwneud y tro yn iawn.

Trafodaeth pellach

Pa lyfr fasech chi’n ei roi yn anrheg, neu’n hoffi ei gael? Cyfrannwch at y drafodaeth ar twitter drwy ddefnyddio #llyfrynanrheg

Ac er mwyn cael y wybodaeth diweddaraf cofiwch ‘hoffi’ ein tudalen ar facebook

Y llyfrau yn y pentwr:

Er mwyn cael cyfle i ennill y pecyn uchod, atebwch y cwestiwn yma cyn 1 o’r gloch y p’nawn ar Ddydd Gwyl Dewi.

Pwy sy’n cyflwyno’r gyfres Pethe?

A. Russell Jones a Bethan Gwanas

B. Dewi Prysor a Lisa Gwilym

C. Rhun ap Iorwerth a Nia Roberts

Gyrrwch eich atebion mewn ebost at pethe@s4c.co.uk gan wneud yn siwr i gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad. Wrth yrru cais i gystadlu rydych yn cytuno eich bod wedi darllen ac wedi cytuno efo rheolau’r gystadleuaeth.

Cliciwch fan hyn i weld rheolau’r gystadleuaeth

Pob lwc!

A DIOLCH i’r gweisg canlynol

Tags: , , ,

Un ymateb i “Twtio silffoedd, rhannu llyfrau – cystadleuaeth i ennill gwerth dros £100 o lyfrau”

  1. Pethe :

    Yr ennillydd lwcus ydi Leusa Fflur Llewelyn o Dreganna, Caerdydd
    Llongyfarchiadau, mae’r llyfrau ar eu ffordd!

Gwneud sylw