Comisiynu
Cynllunir gwasanaeth rhaglenni S4C i ddarparu ystod eang o raglenni i wylwyr o bob oedran, diddordeb ac ym mhob rhan o Gymru.
Mae strategaeth cynnwys S4C yn ...
adeiladu ar gynllun Rhagoriaeth Greadigol S4C a lansiwyd yn 2004 ac yn cyflwyno gweledigaeth y Sianel fel darparwr cynnwys dyfeisgar a gwreiddiol sy'n rhoi gwerth i gynulleidfaoedd.
Mae'r strategaeth yn nodi bydd S4C yn cryfhau ac yn buddsoddi yn ei darllediadau o ddigwyddiadau Cymreig, yn comisiynu rhaglenni sy'n dathlu tirwedd Cymru, yn cynnig drama, adloniant a cherddoriaeth o safon uchel, yn cynnig cyfresi ffeithiol o bwys ac yn rhoi sylw proffeil uchel i chwaraeon - yn enwedig rygbi a phêl-droed.
Yn ogystal, erbyn 2012, bydd yr holl gynnwys a gomisiynir gan S4C yn cael ei gynhyrchu ar fformat Manylder Uwch (HD).
Rydym yn gweithredu proses barhaus o ddatblygu a chomisiynu. Trefn hyblyg a gweithredol yw hon, sy'n ein galluogi i ymateb i anghenion cynulleidfa a gofynion yr amserlen. Rhoddir ymateb sydyn i unrhyw syniad a gynigir er mwyn hwyluso eu trefniadaeth fusnes.
Rydym yn barod i dderbyn syniadau gan bob cynhyrchydd all gyfarfod â gofynion comisiynu S4C ac edrychwn ymlaen at ddeialog greadigol.
Anghenion Rhaglenni Ffenestr Gomisiynu 2
26-Hyd-2011
Ffenestr Gomisiynu 2
Dyddiadau
Ffenestr 2 i agor 12.00 canol dydd 28 Hydref 2011
Ffenestr 2 yn cau 12.00 canol dydd 30 Tachwedd 2011
Cyhoeddi rhestr fer 19 Rhagfyr 2011
Cyhoeddi Comisiynau 18 Ionawr 2012
Anghenion Rhaglenni Ffenestr Gomisiynu 2
Dylid nodi mai 2130-2230 yw'r slot ar gyfer nos Wener wythnos 24, 29, 30, 48, 49, 50 a 51.
- Anghenion Rhaglenni Ffenest Gomisiynu 1 2011 ar gyfer cyfnod darlledu 1 Mawrth tan ddiwedd Mai 2012
- Gweledigaeth S4C 2012
- Gweledigaeth S4C 2012 - Cynllun Cynnwys
- Gweledigaeth S4C 2012 - Cynllun Cyfleu
Archif
- Ymrwymiad Amrywiaeth S4C - Mai 2011
- Cod Ymarfer APC (The Alliance for the Protection of Copyright)
- Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2010
- Strategaeth Cynnwys 2009 - 2013
- Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2009
- Cynllun Corfforaethol S4C 2009
- Ymrwymiad Amrywiaeth S4C - Chwefror 2010
- Cynllun Corfforaethol S4C 2008-2009
- Adolygiad Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2008
- Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2008
- Adolygiad Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2007
- Cynllun Corfforaethol S4C 2007-2009
- Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2007
- Adolygiad Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2006
- Tabl Targedau 2006
- Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2006
- Adolygiad Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2005
- Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2005
- Strategaeth Rhaglenni S4C 2004 - 2009

