LLEWOD V ARIANNIN YN FYW AR S4C
24-Maw-2005
Bydd y gêm fawr rhwng y Llewod a’r Ariannin, a fydd yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, ddydd Llun, 23 Mai, yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C.
S4C fydd yr unig sianel ddaearol gwylio-am-ddim i ddarlledu’r gêm yn fyw, a hynny ddyddiau’n unig cyn i Lewod Prydain ac Iwerddon droi eu golygon tuag at eu taith yn Seland Newydd.
Dyma’r tro cyntaf i’r Llewod chwarae yng Nghaerdydd ers 1986 a’r cyfle olaf i’r hyfforddwr Clive Woodward weld ei chwaraewyr mewn gêm gystadleuol cyn i’r daith ddechrau.
Mae’r darllediad yn bluen arall yn het S4C, sydd ar gael y tu allan i Gymru ar Sky, sianel 135. Mae’r Sianel yn rhoi sylw cynhwysfawr i rygbi gydol y flwyddyn, gan gynnwys darllediadau byw o gêmau’r Cynghrair Celtaidd a Chynghrair Cymru bob nos Sadwrn ar Y Clwb Rygbi. Mae S4C hefyd yn darlledu gêmau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bob blwyddyn, ac yn un o ddarlledwyr cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd.
Meddai Comisiynydd Chwaraeon S4C, Gareth Davies, “Rydym wrth ein bodd bod S4C wedi ennill yr hawliau i ddarlledu’r gêm hynod bwysig hon rhwng y Llewod a’r Ariannin. Mae’r gêm yn siwr o ennyn diddordeb brwd ymhlith selogion y bêl hirgron gyda thaith y Llewod ar fin cychwyn ac rydym yn falch i allu cynnig gwasanaeth gwylio-am-ddim i wylwyr yng Nghymru a ledled y DU.”
Mae S4C wedi cyhoeddi tendr i gynhyrchu’r darllediad ar ein rhan - cliciwch yma am fanylion.
Bydd SkySports hefyd yn darlledu’r gêm yn fyw.

