RHEOLWR CYFFREDINOL S4C

04-Hyd-2005

Mae Delyth Wynne Griffiths wedi ei dyrchafu i’r swydd newydd o Reolwr Cyffredinol S4C. Yn ei rôl newydd, bydd Delyth yn gyfrifol am oruchwylio’r berthynas strategol rhwng S4C, ei chynhyrchwyr a TAC, ac am reoli ochr fusnes y gweithgareddau cynhyrchu. Bydd yn chwarae rhan allweddol yn y broses o ddiffinio naws, ansawdd a strwythur gwasanaethau cyhoeddus y Sianel a bydd yn cynorthwyo’r Prif Weithredwr i sicrhau bod S4C drwyddi draw yn gweithredu’n effeithiol. Bydd hefyd yn gyfrifol am gydlynu strategaeth hyfforddi S4C mewn partneriaeth â’r diwydiant a chyrff perthnasol eraill. Bydd Delyth yn gweithredu fel aelod o Dîm Rheoli S4C a bydd yn cychwyn ar ei swydd newydd ar unwaith. Bydd olynydd yn cael ei benodi i swydd flaenorol Delyth, sef Pennaeth Trefniant Rhaglenni S4C.