TENDR - ISDEITLO

11-Gorff-2006

Gwahoddir cynigion i gyflenwi’r gwasanaeth a ganlyn ar ran S4C:

‘Gwasanaeth isdeitlo Cymraeg ar S4C’

Bydd y gwasanaeth hwn yn cynnig isdeitlo cynhwysfawr Cymraeg gydag apêl eang a’r nod o fod yn ddefnyddiol i Ddysgwyr Cymraeg, y rhai sy’n ystyried eu Cymraeg yn ansicr, a’r garfan fyddar a’r trwm eu clyw. Dylai’r gwasanaeth hwyluso’r cyfle gan y gynulleidfa uchod i ddeall a dilyn rhaglenni Cymraeg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dylai’r ymgeiswyr fod â phrofiad arbennig o waith isdeitlo,Cymraeg safonol, gydag ymwybyddiaeth o faes darlledu a gwybodaeth eang am anghenion y carfanau o wylwyr sydd dan sylw.Disgwylir i’r ymgeiswyr fod â sustemau rheoli priodol fydd yn sicrhau is deitlau di-dor o safon uchel gyda chysondeb ieithwedd ac arddull, i waredu gwallau camsillafu a chamdeipio.Disgwylir i’r ymgeisydd gydymffurfio gyda gofynion perthnasol y ‘Canllawiau Arferion Da ar gyfer Isdeitlwyr yng Nghymru’, (Copi ar gael drwy e-bostio tendrisdeitlo@s4c.co.uk) neu unrhyw ddiwygiad o'r Canllawiau yma sy’n berthnasol i’r gwasanaeth.

Disgwylir i’r ymgeiswyr fod ag ymwybyddiaeth cryf o natur y gwasanaeth a ddisgwylir a bod arbenigedd yn bodoli yn eu tim am ddealltwriaeth anghenion y gynulleidfa.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach