Gofynion Technegol

03-Ebr-2012

Hoffwn atgoffa cynhyrchwyr fod Gofynion Technegol S4C, sy'n ymddangos ar y wefan hon, yn nodi'r angen i gyfleu pob pennod ar dâp unigol. Ar hyn o bryd, nid yw ein systemau yn medru derbyn tâp gyda mwy nag un bennod ac mae peryg y byddai'n rhaid anfon unrhyw dâp nad yw'n cydymffurfio â hyn yn ôl at y cynhyrchydd i'w ail-wneud yn unol â'n gofynion. Gall hyn achosi oedi a chost ychwanegol. Gobeithiwn y gellir osgoi hyn drwy i gynhyrchwyr gyfleu tapiau yn unol â'n Gofynion Technegol.

Diolch am eich cydweithrediad.