Canllawiau Gosod Cynnyrch

03-Gorff-2012

Yn dilyn trafodaethau gyda TAC, mae S4C wedi cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o'r canllawiau gosod cynnyrch. Mae'r newidiadau'n golygu y bydd y person sy'n dod o hyd i'r gosod cynnyrch yn cael comisiwn o 20% gyda'r gweddill i'w ail-fuddsoddi yng nghyllideb y rhaglen, neu lle nad yw hyn yn ymarferol, i'w rannu 50/50 rhwng S4C a'r cynhyrchydd. Hyderwn y bydd y trefniant newydd yn symleiddio'r broses ac yn cynnig cymhelliad i'r cwmnïau cynhyrchu ddod o hyd i gyfleoedd gosod cynnyrch. Croeso i chi gysylltu ag Owain Jones (owain.jones@s4c.co.uk) os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Canllawiau S4C ar Osod Cynnyrch