- Hafan
- Calendr Rasio
- Y Safon Diweddaraf
- 2012
- Cwpan Cymru S4C
- Crochan Aur S4C
- O'r Stablau
- Dr Aled
- Dolenni
Crochan Aur S4C
RHEOLAU PENCAMPWRIAETH 2013
• Dydd Sadwrn Gorffennaf 20 cynhelir Rhagrasys a Ras Derfynol Crochan Aur S4C yn Tir Prince
• Cyfres ydyw sy`n agored i geffylau o safon agored a gydnabuir gan y BHRC
• Bydd uchafswm o 3 rhagras gyda mwyafrif o 12 ym mhob un rhagras Bydd y ddau geffyl cyntaf o bob rhagras yn ogystal â`r collwyr cyflymaf o blith y rhagrasys i gyd yn sicrhau eu lle yn y Ras Derfynol (os oes dim ond 2 rhagras yna y tri ceffyl cyntaf o bob rhagras yn ogystal â`r collwyr cyflymaf o blith y rhagrasys fydd yn sicrhau eu lle). Gwneir pob ymdrech i gadw ceffylau o`r un stabl ar wahan ond ni fedrir chwaith rhoi gwarant na fydd hyn yn bosibl bob tro. Os oes mwy na 36 o geffylau yn gwneud cais I gymryd rhan yn y gyfres, yna`r 36 ar frig y rhestr handicap caiff eu dewis, gyda`r gair olaf yn gorwedd yn nwylo Trefnydd Rasys Tir Prince
• Er mwyn sicrhau myndediad i`r gyfres rhaid gwneud cais ysgrifenedig erbyn Dydd Gwener Mehefin 21 yn nodi enw`r ceffyl, y perchennog a`r hyfforddwr gyda siec am £50 yn daladwy i Tir Prince Raceway Ltd. Os am unrhyw rheswm caiff y dyddiad cyfleu hwn ei ymestyn, yna caiff hwn ei gyhoeddi ar wefannau Tir Prince a BHRC, ac fe fydd y ffenestr estynedig yn parhau am 7 diwrnod arall. Mae gan Tir Prince yr hawl i wrthod mynediad i unrhyw berchennog neu hyfforddwr sydd â hen gostau mynediad yn ddyledus i Tir Prince , neu sydd wedi ei wahardd neu wedi torri rheolau`r Trac. Pe ddigwydd hyn yna digolledir yr ymgeisydd ar unwaith. Bydd Tir Prince yn cyhoeddi rhestr o`r ceffylau sy`n gymwys ar gyfer y rhagrasys mor fuan ag sy`n ymarferol, ar yr hwyraf o fewn 14 diwrnod i`r dyddiad cau. Cyhoeddir y rhestr ar wefannau Tir Prince a’r BHRC. Rhaid i`r ceffylau â nodir gyhoeddi eu bwriad i rhedeg erbyn 5 o`r gloch ddydd Iau Gorffennaf 11 pan fydd angen cwblau`r taliad terfynol o £50 (gellir talu hwn ar 20 Gorffennaf )
• Bydd Rhagrasys a Ras Derfynol y Bencampwriaeth yn cael eu rhedeg fel Rasys Agored, dros filltir o hyd, gyda safleoedd ar y giât yn cael eu tynnu allan o het ar y noson.
• RHAGRASYS Cyfanswm y Gwobrau Ariannol ar gyfer y Rhagrasys fydd £800 wedi ei rhannu fel a ganlyn;
1af - £500
2il - £200
3ydd - £100
Cost Mynediad £50
RAS DERFYNOL Cyfanswm y Gwobrau Ariannol ar gyfer y Ras Derfynol fydd £5000 wedi ei rhannu fel a ganlyn;
1af - £3500
2il - £750
3ydd - £500 4ydd - £250
Nid oes cost mynediad ychwanegol ar gyfer Ras Derfynol y Bencampwriaeth
• Ym mhob achos gweithredir rheolau`r Trac a`r BHRC, gyda phenderfyniad Cadeirydd Stiwardiaid y Trac yn derfynol bob tro.
• Cedwir yr hawl i newid rheolau mewn amgylchiadau tu hwnt i'r cyffredin (na fedrir eu rhagweld.)