Braf ydoedd cael croesawu a thywys Adran yr Urdd Botwnnog oddi amgylch set Rownd a Rownd neithiwr. Cafwyd llawer o hwyl (a chwestiynau!). Un o’r uchafbwyntiau oedd cael gweld hen gar Callum – y Morris Minor. Daethpwyd i’r casgliad mai Hari oedd eu hoff gymeriad, ac roeddynt yn falch iawn ei bod hi wedi dychwelyd i Gilbedlam erbyn hyn!
Reit, lle ma’ rhywun yn dechrau! Bobol bach, mae ’na bobol flin wedi bod yng Nghilbedlam wythnos yma! Mae mwy neu lai pawb wedi bod wrthi – Iris, Jason, Dale, Dewi, Hari, Callum, Meical… Blintastic! Er bod Hari yn dal ar goll, mae pawb wedi bod yn rhy brysur yn bod yn flin efo’i gilydd i wneud dim am y peth. Mae’n rhaid rhoi clod i Terry, boi g’neud yn lle deud, am fynd ati i drio gwneud rhywbeth ymarferol i geisio dod o hyd iddi.
Os mai blin oedd pawb ddechrau’r wythnos, mae’r diwedd wedi bod yn un ddrama fawr! Bu Terry yn mynd rownd a rownd Rhyl yn ceisio dod o hyd i Hari tra yr oedd rhai o drigolion Cilbedlam megis Kelvin a Griff yn dechrau anobeithio. Er mawr ryddhad i bawb, daethpwyd o hyd i Hari, ac fe gafwyd aduniad emosiynol rhyngddi â Terry a Glenda. Mae perthynas Griff â Kim wedi cael ei siglo rywfaint ers i Griff ddangos ochr digon annymunol ohono’i hun, tra bod parti stag Mathew yn bell o fod yn un dathliad hapus wrth i’w orffennol lliwgar â merched fygwth codi ei ben. Y cwestiwn mawr ydy, wnaiff y gorffennol lliwgar hwnnw aros yn gorffennol neu oes yna botensial i’r cwbl ddod i’r wyneb gan roi’r briodas dan fygythiad? Byddai gan Sian reswm teilwng dros fod yn flin os digwyddith hynny!
Rhamantus. Siaradus. Llawn storis. Byrlymus. Triniwr gwallt heb ei hail. Byth yn gadael y tŷ heb false eyelashes. Scorpio.
Mae newydd-ddyfodiad ’di cyrraedd Cilbedlam; Cherry Louis Cooper. Merch ifanc ugain oed sydd yn gweld y byd drwy sbectol fflwfflyd pinc! Mae’n siarad fel melin bapur, gan ddweud pethau weithiau cyn rhoi ei brên mewn gêr! Merch sydd yn mynnu gweld y gorau ym mhawb. Fel ci bach sy’n awyddus i blesio, mae’n gyfeillgar ac yn driw i’w ffrindiau. Mae ei hagwedd gwydr hanner llawn yn gwneud iddi feddwl y gorau o bobol bob amser. Yn driniwr gwallt uchelgeisiol, ei gobaith yw agor salon ei hun ryw ddydd.
Ysgwn i sut ymateb a gaiff hi yng Nghilbedlam? Mae rhywun sydd â chymaint i’w ddweud yn siŵr o dynnu rhywun i’w phen yn hwyr neu hwyrach! Beth am fywyd carwriaethol – oes yna rywun addas iddi yng Nghilbedlam? – amser a ddengys!
Yr actores Lynwen Haf Roberts sydd yn chwarae rhan Cherry. Ers graddio mewn Celfyddydau Perfformio (Coleg y Drindod, Caerfyrddin) yn 2010 mae Lynwen wedi cael profiadau o berfformio ar lwyfan ac ar sgrîn. Croeso i Gilbedlam!
Cipolwg o’r sgript – Ifan yn bryderus o berthynas Llio â Mathew.
IFAN (O WELD MATHEW) O! Ma’n wir felly?
LLIO Beth?
IFAN Bod y ddau ohonach chi’n ‘fama…ar ‘ych penna’ch hunain!
MATHEW (YN CODI) Wow, wow. Gweithio ’dan ni.
IFAN (NESÁU AT MATHEW) Dyna ma’n nhw’n ‘i alw fo dyddiau yma, ia?
MATHEW (CHWITHIG) Ella sa’n well i mi fynd.
IFAN Ti’n iawn…am unwaith.
MATHEW Ti ’di camddeall, mêt.
IFAN Dwi’m yn fêt.
LLIO (GWYLLTIO) Ifan, wi’n ‘i gasáu e nawr! Ma bod ’da fe’n troi arna i!
IFAN Pff!
LLIO Wi’n addo i ti, sdim byd ’da ti i boeni yn ‘i gylch. Ma’n wir ddrwg ’da fi na wedes i.
Llongyfarchiadau enfawr i Emyr Gibson am gwblhau marathon Llundain mewn llai na phedair awr gan lwyddo i godi tipyn o arian i achos da yn y broses. Dyma flog fideo ganddo o’r diwrnod mawr!