S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Taith Andy Unwin i’r rownd derfynol

Sgorio
  • Sgorio
  • 25 Chwefror 2010
  • 15:56

Andy Unwin's Welsh Cup journey

Mae Andy Unwin o Harlech wedi penderfynnu dilyn cystadleuaeth Cwpan Cymru 2009/10 yr holl ffordd o’r rownd rhagbrofol ar 15 Awst, 2009 hyd at y Rownd Derfynol sydd i’w chwarae ar 2 Mai, 2010.

"Nes i sylwi fod Bermo a Dyffryn United, tîm ‘dwi’n ei ddilyn yn achlysurol a sydd ond wyth milltir o fy nghartref, yn cystadlu yng Nghwpan Cymru eleni," eglurodd Andy.

 
Mwy > Map rhyngweithiol
 

"Dyma fydd y tro cyntaf ers 1979-80 i’r clwb gystadlu ers 1979/80 pan gollodd Bermo 0-2 yn erbyn Aber AC yn y Rownd Rhagbrofol.

"Ac wedi penderfynnu dilyn Bermo, dyma fi’n meddwl y dylwn i ddilyn y clwb, neu pwy bynnag fydd yn eu curo, yr holl ffordd i’r ffeinal!"

Dechreuodd daith Andy ddydd Sadwrn 15 Awst yn Wern Mynach wrth i’r clwb o Gynghrair Canolbarth Cymru, Dyffryn Banw, ymweld â’r Bermo.

 
Diweddaraf > Bangor v Aberaman
 

Mae Andy wedi penderfynnu codi arian ar gyfer elusen cefnogwyr pêl-droed Cymru, Gôl!, yn ystod ei daith o gwmpas y wlad hefyd.

Bydd modd i chi ddilyn taith Andy ar ein map rhyngweithiol a bydd ’na flog gan y dyn ei hun ar ôl pob un o’r gemau.

Ond nid dyna fydd y diwedd, fel yr eglurai Andy: "’Dwi wedi penderfynnu hefyd y byddai’n dilyn yr enillwyr i Gynghrair Europa 2010-11 hefyd, felly mae’n bosib y byddaf ar daith gydag Aberystwyth i Azerbaijan, Caerfyrddin i Kazakstan neu hyd yn oed efo Bermo i Bosnia!"