S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Collison: Mae’n amser i ni wneud ein marc

Sgorio
  • Sgorio
  • 28 Mai 2009
  • 14:24

Jack Collison

Dywedodd Jack Collison ei fod yn amser i’r chwaraewyr ifanc addawol yng ngharfan Cymru gyflawni eu potensial.

Wrth edrych ymlaen at y gêm gyfeillgar yn erbyn Estonia ar Barc y Scarlets nos Wener, awgrymodd chwaraewr canol cae West Ham fod ’na gyfle i’r tô ifanc wneud eu marc.

"Fe gawsom ni rediad da iawn yn y tîm dan-21 gan sicrhau sawl canlyniad da iawn," meddai wrth Sgorio.

"Mae ’na cryn dipyn o siarad wedi bod am y nifer o chwaraewyr ifanc addawol sy’n dod drwodd a ‘dwi’n credu fod yr amser wedi dod i ni fynd allan yna a dangos yr hyn ‘da ni’n gallu ei wneud."

Methodd Collison, 20, y ddwy gêm yn erbyn Y Ffindir a’r Almaen oherwydd anaf i’w ben-glin, ond mae disgwyl iddo ennill ei bumed cap yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Estonia nos Wener.

"Fe ddaeth yr anaf ar adeg anghyfleus dros ben," meddai. "Roeddwn i ar rediad da yn y tîm ac yn anffodus bu rhaid i mi golli’r ddwy gêm rhagbrofol, ond ‘dwi’n holliach rwan ac yn barod i fynd."

"Efallai mai nid y canlyniad sy’n bwysig (yn erbyn Estonia) ond mae’n gyfle i fagu profiad – efallai bydd ambell un o’r bechgyn yn ennill eu cap cyntaf – ac yna mynd i Azerbaijan llawn hyder."

Ond cyfaddefodd na fyddai ’na unrhyw broblem paratoi yn feddyliol ar gyfer y gêm.

"’Da ni’n paratoi ar gyfer pob gêm fel chwaraewyr proffesiynol, yn enwedig pan da chi’n chwarae dros Gymru," ychwanegodd.

"Mae ’na rhywbeth arbennig am gael chwarae yng nghrys coch Cymru."

Mwy o straeon:

> Anaf Ricketts yn ergyd i Gymru

Uchafbwyntiau Cymru v Estonia ar S4C am 2200GMT 29 Mai