S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Koumas yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

Sgorio
  • Sgorio
  • 6 Medi 2009
  • 15:57

Jason Koumas

Mae Jason Koumas, chwaraewr canol cae Wigan Athletic, wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Mewn sgwrs gyda’r rheolwr John Toshack dros y penwythnos, cadarnhaodd Koumas, 29, na fyddai ar gael ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Rwsia nos Fercher oherwydd anaf i linyn ei âr, ond hefyd ei fod wedi penderfynu rhoi’r gorau i chwarae i Gymru yn gyfangwbl.

Ers chwarae ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn yr Wcrain yn 2001, mae Koumas wedi ennill 34 o gapiau a sgorio 10 gôl. Fodd bynnag, mae amheuon parhaol wedi bod am ei ymrywmiad i’r tîm cenedlaethol, yn enwedig wrth deithio i gemau oddi cartref.

Mewn datganiad byr ar wefan y Gymdeithas Bêl-Droed, diolchodd John Toshack iddo am ei wasanaeth i’w wlad dros y blynyddoedd a dymunodd yn dda iddo i’r dyfodol gyda Wigan.

Mwy i ddilyn.