S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Noson siomedig i Gymru yn ngwres Montenegro

Sgorio
  • Sgorio
  • 13 Awst 2009
  • 12:12

John Toshack

Montenegro 2-1 Cymru. Ar noson boeth yn Podgorica, collodd Cymru yn dilyn perfformiad amddiffynnol siomedig.

Golygodd ddau gamgymeriad gan Danny Gabbidon, oedd yn dechrau ei gêm gyntaf i Gymru ers Tachwedd 2007, bod dwy gôl o fantais gan Montenegro ar hanner amser. Er i Sam Vokes roi tîm John Toshack o fewn cyrraedd gyda pheniad gwych wedi 52 o funudau, prin oedd bygythiad Cymru yn yr ail hanner ac roedd y fuddugoliaeth yn gyfforddus i Montenegro, tîm sy’n 96ed yn rhestr detholion FIFA.

Roedd y bêl yn y rhwyd o droed Rob Earnshaw yn y funud gyntaf ond cafodd y gôl mo’i chaniatau oherwydd trosedd gan y blaenwr. Llwyddodd Cymru i gadw’r meddiant a pheri rhwystredigaeth i’r tîm cartref yn ystod yr ugain munud cyntaf.

Gyda holl chwarae llwyddiannus Cymru yn mynd drwy’r aeddfed Aaron Ramsey, fe aeth Simon Church yn agos gyda foli a’r capten Joe Ledley gydag ergyd yn dilyn chwarae da Ramsey.

Ond gyda’r rhod wedi troi yn erbyn Cymru ers rhai munudau, aeth Montenegro ar y blaen, toc wedi hanner awr. Tynnodd Gabbidon ymosodwr Sporting Lisbon, Simon Vukcevic, i’r llawr yn y cwrt cosbi a sgoriodd Stevan Jovetic o’r smotyn, gan anfon Wayne Hennessey y naill ffordd a’r bêl i’r llall.

Cafodd Earnshaw gyfle euraid i ddod â Chymru’n gyfartal bum munud yn ddiweddarach, ond ag yntau un ar un gyda Vukasin Poleksic, arbedodd y golwr ei gynnig gyda’i goesau.

Eiliadau cyn hanner amser, aeth Montenegro ymhellach ar y blaen a Gabbidon ar fai eto i Gymru. Y tro hwn, cafodd ei ddal allan o’i safle a llithrodd Radomir Djalovic heibio gan orffen yn daclus i guro Hennessey.

Daeth Toshack â thri eilydd i’r maes ar yr hanner – Lewis Price, Lewin Nyatanga a Sam Vokes – ac un o’r eilyddion rheiny roddodd Cymru yn ôl yn y gêm wedi 52 munud. Croesodd Sam Ricketts o’r chwith a gosododd Vokes beniad gwych i’r gornel heibio i Mladen Bozovic, eilydd o golwr Montenegro.

Bu bron i’r tîm cartref adfer y fantais ddwy gôl ddeng munud yn ddiweddarach pan darodd y tra ddylanwadol Jovetic y postyn a Price wedi’i guro’n llwyr. Fe fyddai rhai dyfarnwyr wedi rhoi cerdyn coch i Miodrag Dzudovic yn hytrach na’r melyn y derbyniodd am dacl wael ar Earnshaw.

Ond wrth i’r chiwban olaf nesau, gostyngodd fygythiad ymosodol Cymru yn y gwres llethol, yn enwedig ar ôl i Ramsey gael ei eilyddio yn y chwarter awr olaf.

Montenegro 2-1 Cymru

Montenegro: Poleksic (Mladen Bosovic 46), Pavicevic, Batak (Pejovic 68), Dzudovic, Jovanovic, Vladimir Bozovic (Nikolic 72), Drincic, Pekovic (Kascelan 62), Vukcevic (Novakovic 86), Djalovic (Beciraj 74), Jovetic.

Goliau: Jovetic 31 (cos), Djalovic 45

Cerdyn melyn: Dzudovic

Cymru: Hennessey (Price 46), Gunter, Ricketts (Eardley 57), Williams (Nyatanga 46), Collins (Morgan 63), Gabbidon, Collison, Ramsey, Ledley (c), Church (Vokes 47), Earnshaw.

Goliau: Vokes 52

Torf: 5,000

Dyfarnwr: Milorad Mazic (Serbia)