S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Amheuon dros dymor o 44 o gemau

Sgorio
  • Sgorio
  • 8 Rhagfyr 2009
  • 14:55

Uwch Gynghrair Cymru

Mewn arolwg ar ran Sgorio, mae’r rhan helaeth o glybiau Uwch Gynghrair Cymru wedi datgan pryder ynghylch tymor o 44 o gemau.

Mae’r sefyllfa wedi codi yn dilyn ailstrwythuro Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer dyfodiad y 12 Disglair yn nhymor 2010/11.

Y bwriad yw bod pob clwb yn herio ei gilydd pedair o weithiau – dwywaith gartref a dwywaith oddi cartref – ond, pan ofynnodd Sgorio’r wythnos yma, dim ond tri o’r 18 clwb oedd o blaid chwarae 44 o gemau’r tymor nesaf.

Mae’r neges yn glir gan y clybiau eu bod yn ofni’r costau ychwanegol fydd ynghlwm â chwarae 10 o gemau ychwanegol.

Dywedodd y clybiau bod costau teithio, cyflogau ychwanegol a chostau ychwanegol o drin y meysydd i gyd yn boen meddwl wrth ystyried chwarae 44 o gemau.

A thra bod arolwg Sgorio yn gyfrinachol, mae sawl clwb wedi datgan eu barn yn gyhoeddus yn ystod y dyddiau diwethaf.

Gormod o gemau

"Mae’n ormod o gemau a bydd hynny’n golygu mwy o gostau teithio a chostau ychwanegol," meddai cadeirydd Hwlffordd, Rob Summons, ar safle we’r clwb.

"Pleidleisio o blaid cynghrair o 10 clwb wnaeth Hwlffordd, lle mae pawb yn herio ei gilydd pedair o weithiau – cyfanswm 36 o gemau," ychwanegodd.

Ac mae Castell-nedd wedi cyhoeddi datganiad ar eu safle we sydd hefyd yn mynegi pryder ynghylch effaith 10 gêm ychwanegol ar chwaraewyr rhan-amser.

"Gallwch weld clybiau’n dewis eu tîm gorau ar brynhawn Sadwrn ond ddim â’r gallu i wneud hynny ar nos Fawrth a ‘dyw hynny ddim am wella safon y gynghrair."

A chyda cymaint o wrthwynebiad i 44 o gemau mewn tymor, fe ofynnwyd i’r clybiau awgrymu strwythur fyddai’n dderbyniol i gynghrair o 12 tîm.

Roedd hanner y 18 clwb o blaid ystyried y syniad o rannu’r gynghrair yn ddwy wedi 22 o gemau – syniad gafodd ei grybwyll gan ysgrifennydd y Gynghrair, John Deakin.

Rhannu’r gynghrair yn ddwy

Byddai pob un clwb yn wynebu eu gilydd gartref ac oddi cartref cyn i’r gynghrair rannu’n ddwy gyda’r chwech uchaf yn chwarae gartref ac oddi cartref i benderfynu’r bencampwriaeth tra bo’r chwech isaf yn gwneud yr un peth i weld pwy fydd yn disgyn.

O dan y system yma byddai’r clybiau’n chwarae 32 o gemau – dwy gêm yn llai na’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd – ac er bod y system yma wedi ei beirniadu, y gred ymysg nifer o’r clybiau oedd ei bod yn system gwell na chwarae 44 o gemau.

Pan ofynnwyd beth fyddai’r nifer delfrydol o glybiau yn Uwch Gynghrair Cymru, roedd y nifer fwayf o glybiau am weld 16.

Ac fel yr atebodd un clwb yn yr arolwg: "Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi dweud bod rhaid i pob cynghrair gwtogi eu haelodaeth i 16 chlwb, felly pam dylai’r gynghrair sydd ar frig y pyramid fod yn wahanol?"

Ond efallai mai’r ffaith fwyaf syfrdanol yn yr arolwg yw fod 10 o’r 18 clwb yn credu na fyddai gostwng y nifer o glybiau yn gwneud unrhyw wahaniaeth er gwell i Uwch Gynghrair Cymru.

O gofio hynny, mae’n addo bod yn gyfarfod difyr dros ben yn Y Drenewydd nos Iau pan ddaw’r clybiau ynghyd i drafod strwythur tymor nesaf.