S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

TPS Turku 3-1 Port Talbot

Sgorio
  • Sgorio
  • 26 Gorffennaf 2010
  • 11:16

Liam McCreesh yn rhedeg at amddiffyn TPS [llun: Gareth Hughes]

Cafodd Port Talbot lygedyn o obaith ar gyfer ail gymal eu gêm yng Nghynghrair Europa yn erbyn TPS Turku wrth i Martin Rose rwydo 20 munud cyn y chwib olaf.

Ond mae gan y Gwŷr Dur fynydd i’w ddringo wedi i’r tîm o’r Ffindir rwydo deirgwaith o fewn 10 munud yn yr hanner cyntaf.

Riku Riski roddodd y tîm cartref ar y blaen wedi 24 munud er gwaethaf amddiffyn arwrol cynnar gan y Cymry.

A dybodd Babatunde Wusu’r fantais â gôl wedi hanner awr cyn i Riski rwydo’i ail o’r gêm pum munud yn diweddarach.

Ond cafwyd perfformiad llawer iawn gwell yn yr ail hanner gan Bort Talbot, oedd yn ymddangos yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Peniodd Rose yn rymus hebio i Henrik Moisander o gic rhydd gelfydd Lee John wedi 70 munud a chafodd yr eilydd, Drew Fahiya, gyfle euraidd i fachu ail i’r ymwelwyr ond fe darodd ei ergyd heibio i’r nod.

Roedd rheolwr Port Talbot, Mark Jones, yn hyderus wedi’r chwib olaf gan ddweud wrth Sgorio fod y gêm "yn parhau yn fyw."

"Fydd TPS ddim yn edrych ymlaen i ddod i Bort Talbot, mae hynny’n sicr," mynnodd Jones.

"Da ni ddim yn colli’n pennau gan fod TPS yn dîm da iawn. Roedd (Jonaton) Johannson ben a ‘sgwyddau’n well nag unrhyw un arall allan yna heno. Roedd y ffordd greodd o’r ail gôl o safon yr Uwch Gynghrair.

"Ond ar ôl newid pethau ar yr egwyl dwi’n credu i ni gael ail hanner arbennig.

"Dwi’n siomedig, a dweud y gwir, mai dim ond un gôl lwyddon ni i sgorio, ond mae’r un gôl ’na yn golygu fod ni dal yma," meddai Jones.


TPS: Henrik Moisander, Igor Jovanovic, Jaakko Nyberg, Sami Rahmonen, Mikko Manninen, Riku Riski (Jani Virtanen 75′), Mika Aaritalo (Roope Riski 78′), Toni Kolehmainen, Jonatan Johansson, Christopher Cleaver, Babatunde Wusu.

Eilyddion eraill: Jani Kristian Tuomala, Mikael Liespuu, Ville Rannikko, Jesse Saarinen, Santeri Mäkinen.

Goliau: Riku Riski 24′ 35′, Babatunde Wusu 30′

Cerdyn melyn: Sami Rahmonen 88′

Port Talbot: Lee Kendall, Leigh De Vulgt (Nicky Holland 46′), Lloyd Grist, Karl Lewis, Matthew Rees, Lee Surman, Martin Rose (Luke Bowen 87′), Liam McCreesh, Scott Barrow, Lee John (Drew Fahiya 87′), Gareth Phillips.

Eilyddion eraill: David Burnett, Danny Thomas, Nicky Palmer, David Brooks. Scorer: Martin Rose 70′

Cardiau melyn: Gareth Phillips 21′, Lee Surman 84′, Karl Lewis 90′

Dyfarnwr: Marcin Szulc (Gwlad Pwyl)