S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Saunders: cafodd Barry gynnig gwell

Sgorio
  • Sgorio
  • 25 Ionawr 2010
  • 21:08

Roedd ’na sioc i gefnogwyr Wrecsam brynhawn Sadwrn wrth glywed y tîm ar gyfer y gêm yn erbyn AFC Wimbledon.

‘Doedd na ddim lle i’r chwaraewr newydd, Anthony Barry, yn y tîm – neu dyna oedd y gred.

Y gwirionedd oedd fod Barry wedi dewis arwyddo i Fleetwood Town fore Sadwrn yn hytrach na cadw at ei air ac ymuno â Wrecsam.

"’Dwi ddim eisiau unrhyw chwaraewr yn y clwb sydd ddim eisiau bod yma," meddai Saunders.

"Mae ’na ddigon o chwaraewyr yn ysu i gael chwarae i Wrecsam."