S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Y Bala’n anhapus gyda’r gohirio

Sgorio
  • Sgorio
  • 22 Chwefror 2010
  • 12:31

Roedd swyddogion CPD Y Bala yn anhapus iawn ddydd Sul wedi i’r Uwch Gynghrair ohirio eu gêm yn erbyn Llanelli.

Er bod Maes Tegid o dan eira yn gynnar fore Sul, roedd swyddogion y clwb yn ffyddiog bod modd chwarae’r gêm gyda fflyd o wirfoddolwyr wedi ymgasglu i glirio’r maes.

Ond penderfynodd y Gynghrair ohirio’r gêm wedi pryderon gan Llanelli nad oedd y ffyrdd yn ddiogel ar gyfer y daith i’r gogledd.

"Cafodd y Gynghrair alwad gan CPD Llanelli am 0820 y bore yn pryderu bod pump aelod o’u carfan yn ei chael yn anodd gyrru o’u cartrefi," meddai datganiad swyddogol gan y Gynghrair.

"Mae gan y Gynghrair ddyletswydd i edrych ar ôl ei chwaraewyr a rheolwyr ac rydym wedi penderfynu gohirio’r gêm ar ôl darllen safle we Travel Wales.

"Rydym yn cydymdeimlo gyda CPD Y Bala, oedd yn disgwyl torf sylweddol, ac ar ôl holl waith caled eu staff.

"Mae’r Gynghrair hefyd yn deall siom Llanelli sydd yn dal i orfod talu £800 am fws y tîm ac hefyd eu cefnogyr gwych sydd eisoes wedi teithio ac wedi talu am lety."