Llwyddodd Casnewydd i sicrhau dyrchafiad i Uwchgynghrair Blue Square â buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Havant and Waterlooville nos Lun.
O flaen torf enfawr o 4,221 rhwydodd Sam Foley ddwywaith a sicrhau bod y County yn ennill dyrchafiad i’r cynghrair lle diflanodd y clwb gwreiddiol 21 o flynyddoedd yn ôl.
Roedd yn noson emosiynol i nifer o gefnogwyr Casnewydd sydd wedi gweld eu clwb yn esgyn o ulw hen glwb yr Ironsides ddiflanodd yn ddisymwth ym mis Chwefror 1989.
Wedi disgyn allan o’r Bedwaredd Adran ym 1988, methodd County â chwblhau eu gemau yn y Gyngres a chyda’r beili yn cnocio ar ddrysau Parc Somerton, cafodd y clwb ei wahardd o’r gynghrair.
Gwrthododd cefnogwyr y County a gadael i’w clwb farw ac ym mis Mehefin 1989 fe annwyd Newport AFC – clwb oedd yn cael ei harwain gan y cefnogwyr.
Cafodd y clybiau eu derbyn i’r Gynghrair Hellenic – pedair adran yn is na’r Gynghrair Bêl-droed – ac fe ddechreuodd y cefnogwyr a’r clwb eu taith hir yn ôl.
Ond roedd gwleidyddiaeth pêl-droed yn golygu na fyddai’r daith yn un hawdd a chafwyd brwdr efo Chyngor Casnewydd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru dros yr hawl i chwarae yng Nghasnewydd.
Gyda Chyngor y dref yn credu fod y clwb newydd yn gyfrifol am ddyledion yr hen Ironsides ac yn gwrthod caniatau mynediad i Barc Somerton, bu rhaid i Newport AFC chwarae eu tymor cyntaf yn Moreton-in-Marsh, Sir Gaerloyw.
Daeth y clwb yn ôl i Gasnewydd a Pharc Somerton ym 1990 ond dim ond am ddau dymor gan i’r FAW fynnu byddai’n rhaid i’r alltudion chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol newydd.
Cafwyd brwydr hir a chwerw yn yr Uchel Lys ond ar ôl ennill yr hawl i chwarae ym mhyramid Lloegr, dychwelodd y clwb i Ganewydd unwaith eto.
Yn anffodus, yn eu habsenoldeb, roedd Parc Somerton wedi ei ddymchwel a bu rhaid i’r clwb ymgartrefu yn y stadiwm newydd ar Barc Spytty.
Cafwyd penderfyniad hanesyddol arall ym 1999 wrth i’r cefnogwyr bleidleisio i ychwanegu’r enw ‘County’ i’w henw unwaith eto.
I llawer o gefnogwyr pêl-droed, mae’r fuddugoliaeth nos Lun a dyrchafiad i’r Gyngres yn gweld y cylch yn cau wrth i’r clwb newydd gyrraedd yr union fan lle diflanodd y clwb gwreiddiol.
Ond i gefnogwyr County, dim ond y dechrau ydi’r dyrchafiad yma wrth iddyn nhw frwydro i ddychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed ac ail fyw dyddiau da Tommy Tynan, John Aldridge a Carl Zeiss Jena.