S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Dim Bellamy yng ngharfan Cymru

Sgorio
  • Sgorio
  • 26 Chwefror 2010
  • 12:32

Craig Bellamy

‘Dyw John Toshack heb gynnwys capten Cymru, Craig Bellamy, yn y garfan i wynebu Sweden yn y gêm gyfeillgar yn Abertawe’r wythnos nesaf.

Credir fod Toshack am gadw ffydd gyda’r tîm ifanc chwalodd Yr Alban yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Tachwedd.

Mae Bellamy wedi dioddef yn enbyd ag anafiadau i’w ben-glin dros y blynyddoedd ac o’r herwydd, credir fod Toshack eisiau cadw’r ymosodwr yn holliach ar gyfer gemau rhagbrofol. 

O’r tîm drechodd Yr Alban, mae Joe Ledley, David Edwards, Danny Gabbidon a Joe Allen yn colli’r gêm oherwydd anafiadau.

Ond mae’r chwaraewr canol cae, Simon Davies a Jack Collison a’r amddiffynnwr, James Collins, yn dychwelyd i’r garfan ar ôl gwella o’u hanafiadau.

‘Dyw Davies heb chwarae dros Gymru ers arwain y tîm i’r maes yn erbyn Yr Almaen ar 1 Ebrill 2009 tra bod Collison yn ôl yn y garfan am y tro cyntaf ers y gêm gyfeillgar yn erbyn Montenegro ym mis Medi.

Andy Dorman o St Mirren yw’r unig chwaraewr yn y garfan sydd heb ennill cap.

Carfan Cymru i herio Sweden ar 3 Mawrth:
Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers), Boaz Myhill (Hull City)

Gareth Bale (Tottenham Hotspur), James Collins (Aston Villa), Neal Eardley (Blackpool), Chris Gunter (Nottingham Forest), Craig Morgan (Peterborough United), Lewin Nyatanga (Bristol City), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe)

Jack Collison (West Ham United), Andrew Crofts (Brighton & Hove Albion), Simon Davies (Fulham), Andy Dorman (St. Mirren), Andy King Caerlŷr), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Blackpool)

Simon Church (Reading), David Cotterill (Abertawe), Robert Earnshaw (Nottingham Forest), Ched Evans (Sheffield United), Sam Vokes (Wolverhampton Wanderers).

Bydd uchafbwyntiau o’r gêm ar Sgorio ar S4C am 2240 nos Fercher 3 Mawrth