S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Sgorio i ddangos Chelsea v Caerdydd

Sgorio
  • Sgorio
  • 11 Chwefror 2010
  • 13:57


Bydd S4C yn dangos gêm Caerdydd ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr yn erbyn y deiliaid, Chelsea, yn fyw ac yn ecsgliwsif ar 13 Chwefror.

Tîm Sgorio fydd yn dod â holl gyffro’r paratoadau o Stamford Bridge o 1130 GMT gyda’r gic gyntaf am 1200 GMT.

 Jones wedi ei gyffroi gan Chelsea

Mae Sgorio eisoes wedi darlledu’r gêm yn y drydedd rownd yn erbyn Bristol City o Ashton Gate a’r gêm ail chwarae ddilynodd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

A chafwyd uchafbwyntiau o’r gêm yn y bedwaredd rownd yn erbyn Caerlŷr yn rhan o Sgorio Cymru brynhawn Sadwrn diwethaf.

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.