Mae clybiau Cymru wedi cael gwybod eu tynged yng Nghynghrair Europa wedi i’r enwau ddod allan o’r het yn y Swistir ddydd Llun.
Bydd Llanelli yn wynebu taith i Lithuania i herio FK Tauras tra bo Port Talbot yn herio TPS Turku o’r Ffindir yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Europa tra bo Bangor yn ail ymweld â Honka Espoo o’r Ffindir yn yr ail rownd.
Llanelli’n ffyddiog
Roedd ysgrifennydd Llanelli, Nigel Richards, wrth ei fodd i ddod allan o’r het gyntaf.
"’Dy ni’n falch iawn fod y cymal cyntaf ar Barc Stebonheath," meddai Richards wrth Sgorio.
"Ni ddim yn gwybod llawer am Tauras heb law eu bod nhw yn bedwerydd yn eu cynghrair ar hyn o bryd."
Chwaraeodd y Cochion yn erbyn Vetra Vilnius o Lithuania yn Nhlws yr Intertoto yn 2007, gan golli ar y rheol goliau oddi cartref, ond roedd Richards yn hyderus byddai tîm presenol Llanelli yn gallu mynd cam yn well y tro yma.
"Mae’r tîm sydd gennym ni ar hyn o bryd yn gryfach na’r tîm heriodd Vetra, felly ‘da ni’n ffyddiog bod modd i ni gamu ymlaen yn y gysadleuaeth yma."
Taith i herio TPS
Er mai dyma’r tro cyntaf i Bort Talbot chwarae yn Ewrop, mae eu rheolwr, Mark Jones, eisoes wedi herio tîm o’r Ffindir.
Jones oedd rheolwr Caerfyrddin pan gollodd yr Hen Aur 8-1 dros ddwy gymal yn erbyn Tampere United yn Nhlws yr Intertoto yn 2006.
Ac roedd Jones ychydig yn siomedig fod y Gwŷr Dur yn chwarae oddi cartref yn y cymal cyntaf.
"Byddwn i wedi hoffi chwarae gartref gyntaf er mwyn gally gweld y tîm yn iawn cyn mynd i’r Ffindir," meddai Jones wrth Sgorio.
"Mae nhw’n dîm mwy na fydde ni wedi hoffi herio, mae ganddyn nhw chwaraewyr profiadol fel Jonatan Johansson sydd wedi chwarae i Rangers a Charlton.
"Ond mae’n rhaid i ni fynd allan yna a rhoi gêm go iawn iddyn nhw."
Deja vu i Fangor
Roedd na ochenaid mawr o siom o gyfeiriad clybiau Bangor a Honka Espoo pan ddaeth yr enwau allan o’r het i herio eu gilydd am yr ail dymor yn olynol.
"Roedd swyddogion y dau glwb yn eistedd drws nesaf i’w gilydd yn trafod gêm llynedd," meddai ysgrifennydd Bangor, Gwynfor Jones.
"Ond o leiaf ‘da ni’n gwybod beth i’w ddisgwyl, o ran teithio ac o ran y sefyllfa ar y cae."
Collodd Bangor 2-0 yn Y Ffindir llynedd cyn colli 1-0 ar Y Cae Ras, ond roedd Jones yn disgwyl gwell canlyniadau y tymor yma.
"Roedd hi’n gêm glos yn yr ail gymal yn Wrecsam llynedd a da ni wedi cryfhau’r garfan felly dwi’n obeithiol y gallwn fynd cam yn well tymor yma," meddai.
Petai Port Talbot a Llanelli yn ymuno â Bangor yn yr ail rownd, byddai’r Cochion yn wynebu Apoel o Nicosia yng Nghyprus tra bo Cercle Brugge o Wlad Belg yn disgwyl am fuddugwyr gêm Port Talbot â TPS.