S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Cymry’n gobeithio herio Llydaw

Sgorio
  • Sgorio
  • 26 Chwefror 2010
  • 15:01

Brittany XI

Mae Sgorio wedi cael ar ddeall bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn trafodaethau â Chymdeithas Bêl-droed Llydaw ynghylch chwarae gêm gyfeillgar ym mis Mai.

Credir bydd gwyr John Toshack yn treulio wythnos yn y rhanbarth Ffrengig gan ddefnyddio adnoddau ymarfer FC Nantes sy’n chwarae yn Ligue 2 cyn herio’r Llydawyr ar nos Fercher 19 Mai.

Mae’n debyg bydd y gêm, a fydd yn cael ei ddefnyddio fel paratoad ar gyfer gêm gyfeillgar arall yn erbyn Croatia ar 23 Mai, yn cael ei chynnal yn stadiwm La Beaujoire-Louis Fonteneau, FC Nantes.

Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Bretagne (BFA) yn aelodau o Fifa nac Uefa ac maent yn chwarae eu gemau o dan awdurdod Ffederasiwn Pêl-droed Ffrainc (FFF).

Ond nid dyma fydd y tro cyntaf i Gymru herio tîm nad yw’n aelod o Fifa – ym mis Mai 2006 sgoriodd Ryan Giggs unig gôl y gêm wrth i Gymru drechu Gwlad y Basg 1-0 yn Bilbao.

Chwaraeodd Llydaw eu gêm gyntaf ym 1922 gan drechu Lwcsembwrg 1-0 yn Rennes, ond ers diwedd yr Ail Ryfel Byd dim ond tair gêm maent wedi eu chwarae.

Rhwng 1999 a 2001 cafodd pum gêm eu gohirio yn dilyn cwynion gan yr FFF, ond ym mis Mai 2008 trechwyd Congo 3-1 yn Saint-Brieuc.

Ymysg y chwaraewyr sydd wedi gwisgo’r crys du a gwyn Llydewig, mae cyn-chwaraewr Paris St Germain a chyn-reolwr Rangers, Paul Le Guen.

Yn ogystal â chasglu 17 cap dros Ffrainc, chwaraeodd Le Guen dros Lydaw mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Camerŵn ym 1998.