S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Dim gêm yn Llydaw i Gymru

Sgorio
  • Sgorio
  • 4 Mawrth 2010
  • 13:46

Brittany XI

Mae gobeithion Cymru o herio tîm cenedlaethol Llydaw wedi eu chwalu wedi i Gymdeithas Bêl-droed Llydaw (BFA) dderbyn gwahoddiad i herio Albania yn Tirana.

Roedd gwyr John Toshack wedi gobeithio treulio wythnos yn y rhanbarth Ffrengig gan ddefnyddio adnoddau ymarfer FC Nantes sy’n chwarae yn Ligue 2 cyn herio’r Llydawyr ar nos Fercher 19 Mai.

Ond er i Ffederasiwn Pêl-droed Ffrainc (FFF) gytuno i gais Cymdeithas Bêl-droed Cymru o gael chwarae’r gêm, mae’r BFA wedi cyhoeddi eu bod am deithio i Tirana.

Bydd y newyddion yn ergyd i Gymru, oedd am defnyddio’r gêm yn erbyn Llydaw fel rhan o’u paratoadu i herio Croatia ar Mai 23.