S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

‘Sweden oedd y tîm gorau’ medd Tosh

Sgorio
  • Sgorio
  • 4 Mawrth 2010
  • 14:56

Cyfaddefodd John Toshack mai Sweden oedd yn haeddu ennill y gêm gyfeillgar yn erbyn Cymru nos Fercher.

Ymosodwr Bolton, Johan Elmander, rwydodd unig gôl y gêm â foli gelfydd funud cyn yr egwyl yn Stadiwm Liberty, Abertawe.

"Cawsom ni ddechrau digon da yn y 15 neu 20 munud cyntaf," meddai Toshack wrth Sgorio.

"Ond wrth i’r gêm fynd yn ei blaen fe ddaeth (Sweden) yn ôl i reoli a ‘dwi’n credu eu bod nhw’n llawn haeddu’r fuddugoliaeth.

"A bod yn onest fe allwn ni fod wedi ildio llawer iawn mwy."