
Mae arwr canol cae Abertawe, Leon Britton, wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Swans fydd yn ei gadw yn Stadiwm Liberty am dair blynedd arall.
Ac roedd Britton, 29, yn amlwg wrth ei fodd i fod wedi gallu dod i gytundeb â’r clwb ac awgrymodd mai ei ymadawiad byr i Sheffield United oedd yn gyfrifol am y ffaith iddo fod mor hapus i fod yn ôl.
“Dwi’n meddwl pan mae rhywun gydag un clwb am saith neu wyth mlynedd, ‘dy chi’n dechrau cymryd pethau’n ganiataol,” meddai Britton wrth Sgorio.
“Roedd gadael Abertawe yn gwneud i mi sylweddoli faint o beth da oedd yn mynd ymlaen yma.”
Ond roedd Britton yn sydyn iawn i ganmol y rheolwr, Brendan Rogers, am weddnewid y clwb yn ei absenoldeb.
“Doedd Brendan ddim yma pan adweias i a doeddwn i ond wedi bod i ffwrdd am rhyw chwe mis ond roedd popeth wedi newid. Roedd yr ymarferion yn llawer cyflymach ac roedd cymaint wedi newid mewn cyn lleied o amser.
“Mae’n rhaid canmol y rheolwr am hynny,” ychwanegodd.
Ac roedd Britton am ladd unrhyw sibrydion ynghylch Rogers a Tottenham Hotspur hefyd.
“Pan mae tîm yn gwneud cystal mae’n anorfod fod pobl am siarad am y rheolwr a’r chwaraewyr,” eglurodd.
“Ond mae’r rheolwr wedi arwyddo cytundeb newydd sy’n dangos ei fod eisiau aros, ond mae’n amhosib rhwystro pobl rhag siarad.
“Gyda’r tywydd mor braf i lawr yma a chyda’r Swans yn gwneud mor dda yn Uwch Gynghrair Lloegr, pam fydde chi eisiau gadael,” chwarddodd.
“Dwi’n gobeithio y gallwn ni gadw pawb gyda’u gilydd a gallwn ni gyd fwynhau sawl hufen ia arall i lawr y Mwmbwls!”