
Mae Castell-nedd wedi methu sicrhau Trwydded Ddomestig Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac o’r herwydd mae’r clwb yn disgyn allan o Uwch Gynghrair Cymru.
Roedd yr Eryrod wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gwrthod rhag derbyn Trwydded Ddomestig a Thrwydded Uefa, ond fe gadarnhawyd y penderfyniadau gan banel apêl annibynnol yng Nghaerdydd brynhawn Gwener.
Mae cwymp Castell-nedd, llai na 12 mis ers cynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa, yn golygu achubiaeth i Gaerfyrddin, oedd wedi gorffen yn isaf ond un yn Uwch Gynghrair Cymru.
Ond nid dyma’r tro cyntaf i un o glybiau’r Uwch Gynghrair fethu a sicrhau trwydded.
Bu rhaid i’r cyn bencampwyr, Y Rhyl, ddisgyn allan o’r Uwch Gynghrair yn 2010 ar ôl methu a sicrhau’r drwydded.
Ond roedd na newyddion da i’r Lilywhites ddydd Gwener wrth iddyn nhw lwyddo yn eu hapêl a sicrhau Trwydded Ddomestig.
Er iddyn nhw orffen tu ôl i Gei Connah, sy’n esgyn o Gynghrair Undebol Huws Gray y tymor yma, mae llwyddo yn yr apêl yn hwb enfawr i’r clwb o’r Belle Vue wrth iddyn nhw edrych tuag at y tymor newydd gan wybod fod Trwydded Ddomestig o fewn cyrraedd.
Roedd pencampwyr presenol Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd, hefydd yn llwyddianus yn eu hapêl ond methodd y clwb o Gynghrair Macwhirters y De, Penybont-ar-Ogwr, a sicrhau’r drwydded.
Yn dilyn penderfyniad y panel apêl, cafwyd cadarnhâd o drefn gemau ail gyfle Cynghrair Europa sydd bellach yn gweld Aberystwyth yn cymryd lle Castell-nedd:
Gêm Ail Gyfle Cynghrair Europa
Airbus UK v Aberystwyth
Rownd Gynderfynol Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa
Llanelli v Airbus UK neu Aberystwyth
Y Bala v Prestatyn