S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Coleman wedi’i benodi’n rheolwr Cymru

Chris Coleman
Sgorio
  • Sgorio
  • 23 Chwefror 2012
  • 16:16

Cyhoeddodd y Gymdeithas Bêl-droed Cymru mai Chris Coleman yw olynydd i Gary Speed mewn cynhadledd i’r wasg amser cinio ddydd Iau. 

Mewn amgylchiadau syber, dywedodd Coleman mai dyma’r gynhadledd i’r wasg doedd neb yn disgwyl ei gynnal.

"Dyma’r eiliad fwyaf balch o fy nghyrfa i, mwy na thebyg, i gael arwain fy ngwlad. Rydw i wedi cael y cyfle oherwydd amgylchiadau gallai neb fod wedi eu darogan."

"Mae’n chwerw-felys i mi – roeddwn i’n ffrindiau gyda Gary am 30 o flynyddoedd. Dyma un o’r profiadau anodd yn fy mywyd i – dyma’r gynhadledd i’r wasg anoddaf fydda i fyth yn ei roi."

Fe ymddiheurodd Coleman am ei ymddygiad tawel yn ystod y cyhoeddiad, "esgusodwch fi os nad ydw i’n edrych wedi fy nghyffroi. Mae na gyffro ond rydw i’n dawel oherwydd yr amgylchiadau. Dydi hi ddim yn mynd i fod yn hawdd, bydd hi’n hyd yn oed mwy anodd o dan yr amgylchiadau."

"Pan mae eich gwlad chi’n dod a gofyn i chi gymryd yr awennau, mae’n alwad a nid rhywbeth y gallwch chi ei wrthod. Dydw i ddim yn gwneud hyn fel ffordd i fynd i rywle arall. Rydw i’n gwneud hyn i wneud fy ngwlad i’n falch a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at hynny."

Dywedodd y cyn-amddiffynnwr rhyngwladol nad oedd wedi siarad gyda neb o’r tîm hyfforddi presennol, yn cynnwys Raymond Verheijen, yr is-reolwr dan Gary Speed.

Fodd bynnag, roedd Coleman wedi siarad gyda nifer fechan o chwaraewyr profiadol ond gwrthododd gadarnhau mai Aaron Ramsey fyddai ei gapten.

"Fydden i’n ffwl i ddod yma a rhwygo popeth yn ddarnau a dechrau o’r dechrau eto," meddai Coleman. "Dydw i ddim yma i wneud hynny, ond dyw’r gynffon ddim yn gallu ysgwyd y ci. Mae’n rhaid iddi fod fel arall. Rydw i’n deall rhai o’r sylwadau a dwi’n parchu hynny."

"Mae Aaron Ramsey yn gapten ar ei wlad ac mae Aaron yn poeni am y sefyllfa. Rydw i wedi cael sgwrs fer gydag e. Fe gawn ni sgwrs hirach ac fe siarada i gyda rhai o’r chwaraewyr eraill. Dydw i ddim yma i rwygo popeth yn ddarnau ond rydw i’n ddyn gyda fy meddwl fy hun. Os oes angen newid rhywbeth, fe wna i ei newid."

Pan ofynwyd iddo am ei neges i’r cefnogwyr, ymbiliodd ar y cyhoedd i barhau i gefnogi’r tîm.

"Nid Gary ydw i. Ges i rioed yrfa fel un Gary. Roedden ni’n ffrindiau clos ond mae fy mhersonoliaeth i’n wahanol. Dydw i ddim yma i darfu ar bopeth ond i adeiladu ar be wnaeth Gary. Rydw i angen [i'r cefnogwyr] ein cefnogi ni."

"Dydw i ddim yma oherwydd fy ego. Dyma yw uchafbwynt fy ngyrfa. Rydw i’n gwybod sut deimlad yw hi i gael cefnogwr Cymru tu ôl i’r tîm – does na ddim byd tebyg."

Cafodd cyn amddiffynnwr Cymru, sy’n 41-mlwydd-oed, drafodaethau gyda’r Gymdeithas yn gynharch yn yr wythnos.

Mae’r Gymdeithas wedi bod yn urddasol iawn yn eu hymgyrch i chwilio am reolwr newydd ers marwolaeth syfrdanol Speed ym mis Tachwedd.

Ond mae lle i gredu fod swyddogion y Gymdeithas wedi cysylltu a Coleman wedi iddo ymddiswyddo fel rheowr Larissa yng Ngwlad Groeg wythnos diwethaf.

Enillodd Coleman 32 o gapiau dros ei wlad cyn i’w yrfa chwarae ddod i ben yn gynnar dilyn damwain car ac yntau ond yn 31-mlwydd-oed.

Symudodd Coleman i fyd hyfforddi gyda Fulham, y clwb lle bu’n chwaraewr, a chymrodd yr awenau fel rheolwr wedi i Jean Tigana gael ei ddiswyddo.

Yn ei dymor cyntaf wrth y llyw, gorffennodd Fulham yn nawfed ond methodd adeiladu ar ei lwyddiant cynnar a chafodd ei ddiswyddo ym mis Ebrill 2007.

Treuliodd gyfnod yn rheoli Real Sociedad yn y Segunda yn Sbaen ond gadawodd y clwb ar ôl saith mis yn unig a chafodd ei benodi’n reolwr ar Coventry.

Collodd ei swydd efo’r Gleision wedi i’r clwb orffen yn 19eg yn y Bencampwriaeth yn nhymor 2009/10.

Fel chwaraewr chwaraeodd dros 150 o gemau cynghrair i Abertawe yn y Drydedd a Phedwaredd Adran cyn ymuno â Crystal Palace yn 1991 i gael chwarae’n yr hen Adran Gyntaf.

Dioddefodd y cwymp gyda Palace yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Lloegr yn 1993 gan orffen islaw Oldham ar wahaniaeth goliau yn unig.

Fodd bynnag, dringodd Palace a Coleman yn ôl i’r Uwch Gynghrair drachefn cyn i Coleman symud i Blackburn – oedd yn Bencampwyr y gynghrair ar y pryd – ar ddiwedd 1995.

Dwy flynedd a dim ond 28 ymddangosiad cynghrair yn ddiweddarach, synodd Coleman y byd pêl-droed wrth arwyddo i Fulham oedd yn chwarae dwy gynghrair yn is, gydag arian eu cadeirydd hael, Mohamed al-Fayed, yn talu ffi dros £2 filiwn oedd yn record i’r Ail Adran.

Roedd Coleman yn gapten ar y clwb ac yn rhan bwysig o’r tîm wrth i Fulham ddringo tua’r Uwch Gynghrair ond daeth ei yrfa i ben cyn iddo gael y cyfle i gynrychioli’r clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr yn dilyn damwain car ddifrifol ym mis Ionawr 2001.