S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Ble mae’r crysau a chlybiau Cymreig?

Darcy Blake (Caerdydd), Joe Allen (Abertawe) a Neil Taylor (Wrecsam)

Dylan Ebenezer sydd yn chwilio am wreiddiau Cymreig ein chwaraewyr pêl-droed


Ma’ na lun da o dîm rygbi Cymru ar gefn y Western Mail. Dyna chi frawddeg dwi ddim wedi eu hysgrifennu o’r blaen!

Yng nghanol holl heip y 6 Gwlad roedd ’na lun trawiadol o chwaraewyr Cymru yn gwisgo crysau eu clybiau lleol – clybiau Uwch Gynghrair Principality.

Y ffaith fwyaf arwyddocaol oedd bod pob un wedi cynrychioli o leiaf un o glybiau’r brif gynghrair yng Nghymru – yn anffodus does dim modd dweud yr un peth am y bois pêl-droed.

Dyw’r rhan fwyaf ddim hyd yn oed wedi dechrau eu gyrfa gyda chlwb yng Nghymru – heb sôn am y gynghrair.

Mae hi’n annheg cymharu’r ddwy gêm oherwydd hanes y campau. Tra bod rygbi Cymru wedi tyfu a datblygu yn lleol – mae pêl-droed wedi bodoli yng nghysgod un o gewri’r gamp gan edrych yn eiddigeddus dros y ffin.

Mae’r sefyllfa yn syml – er mwyn cystadlu ar y lefel uchaf – a sicrhau bywoliaeth o bosib – mae’r chwaraewyr ifanc gorau yn mynd i groesi Clawdd Offa.

Ar wahân i Abertawe a Chaerdydd y dyddiau yma – mae talent ifanc Cymru ar werth.

Tase chi’n rhoi gŵyr y bêl gron yng nghrysau eu clybiau gwreiddiol byddai 10 o’r garfan arferol o 25 yn gwisgo crys clwb o Gymru.

Glas Caerdydd fyddai mwyaf amlwg gyda saith yn cynrychioli clwb y brifddinas. Joe Allen fyddai’r unig Alarch yn y criw a Neil Taylor, sydd bellach hefyd lawr y Liberty, fyddai’r unig un yng nghrys Wrecsam.

Fe allai cyfanswm Caerdydd fod yn 10 ond doedd llygaid barcud y sgowtiaid ddim digon craff i weld potensial Gareth Bale, Craig Bellamy a Danny Gabbidon.

Y 10fed o’r criw Cymreig yw Danny Collins – yr unig un sydd wedi chwarae ym mhyramid Cymru – gyda Bwcle a‘r Wyddgrug.

Roedd Boaz Myhill gyda Bechgyn Croesoswallt ond efallai bod hynny yn gofyn gormod!

Prin iawn yw’r crysau Uwch Gynghrair Cymru ar draws y blynyddoedd ond does ond angen mynd yn ôl naw mis i brofi presenoldeb Bangor diolch i Owain Tudur Jones.

Felly ma’ lot llai na hanner y chwaraewyr wedi dechrau gyda chlybiau yng Nghymru … ond yw hyn yn broblem?

Y peth pwysig yw bod chwaraewyr o Gymru yn datblygu a chwaraewyr sydd yn gymwys i Gymru hefyd.

Ymhlith y 25 yn y garfan mae yna naw sydd yn gymwys oherwydd eu cysylltiadau teuluol, efallai bod y ffigwr yna o 10 crys Cymreig ddim mor wael â hynny wedi’r cwbwl.

Yn enwedig o gofio’r cawr yna drws nesaf.

Mae’r Gymdeithas bêl-droed wedi lawnsio’u strategaeth newydd yn ddiweddar – cynllun uchelgeisiol pellgyrhaeddol sy’n datgan yn glir sut ma’ nhw’n bwriadu datblygu’r gêm ar bob lefel.

Yn gefndir i’r cyfan mae’r ffaith syml bod angen i bob agwedd o’r gêm ffynnu er mwyn sicrhau llwyddiant i’r tîm cenedlaethol.

Mae’n rhaid cael sylfaen gref a gwreiddiau dwfn. Ym mhyramid pêl-droed Cymru mae’r Uwch Gynghrair rhywle yn y canol – fe ddylai fod yng nghanol y cyfan hefyd.

Gyda chynghrair gref gystadleuol bydd mwy o chwaraewyr ifanc yn hapus i ddechrau’u gyrfaoedd gyda’u clwb lleol.

Bydd y goreuon – yn amlwg – yn parhau i groesi’r ffin – ond trwy sicrhau’r sylfaen efallai y gwelwn ni mwy o grysau Uwch Gynghrair Cymru yng ngharfan Cymru yn y dyfodol.