
Meilyr Powel sy’n cael cyfle i ychwanegu maes arall i’w restr o feysydd wrth geisio ymuno â Chlwb 92!
Un peth da am gwpan FA gyda Sgorio yw does dim dal pa stadiwm y byddwn yn ymweld â hi wrth i dimau Cymru fynd trwy’r rowndiau.
Yn barod y tymor hwn mae Sgorio wedi bod yn Stadiwm Abbey ar gyfer gêm fyw Caergrawnt v Wrecsam yn y Rownd Gyntaf.
Yna yn y Drydedd Rownd, wrth i’n darllediad ddod yn fyw o Brestatyn, roedd ein gohebwyr wedi eu gwasgaru led-led Lloegr.
Roedd Gary Pritchard yn gwylio gêm Brighton v Wrecsam yn Stadiwm Amex, Mike Davies yn gwylio gêm West Brom v Caerdydd yn yr Hawthorns a Bryn Tomos yn adrodd o Oakwell wrth i Abertawe herio Barnsley.
A chawsom ni gyd daith i’r Cae Ras wrth i Sgorio ddarlledu gêm ail chwarae Wrecsam v Brighton yn fyw ar S4C.
Ar ôl i’r enwau ddod allan o’r het ar gyfer y Bedwaredd Rownd, roedd hi’n bryd cynllunio taith fach i Stadiwm Reebok wrth i Abertawe wynebu Bolton Wanderers.
Y cynllun oedd i Bryn Tomos adrodd digwyddiadau’r gêm ar raglen Sgorio oedd yn darlledu’r Rhyl v Llanelli ym Mhedwaredd Rownd Cwpan Cymru.
Roeddwn am gwrdd â Bryn yn Stadiwm Reebok, ynghyd â dyn camera, dyn sain, a’r person holl bwysig, Llion, fyddain gyfrifol am drosglwyddo’r lluniau i’r Rhyl drwy loeren.
I rhywun fel fi, sy’n mynd ar goll rhwng Aberystwyth a’r Bala, doedd dim dwywaith mai’r peth pwysicaf i’w wneud oedd estyn am yr hen SatNav!
BL6 6JW amdani. A bant a fi!
Ar ôl cwrdd a’r criw bu rhaid cario’r offer camera a sain i fyny i’r gantri.
Yn wahanol iawn i feysydd Uwch Gynghrair Cymru lle dwi wedi hen arfer cario offer i fyny ysgol, roedd ’na lifft yn y Reebok – lifft gyda charped!
Roeddwn ni yn yr entrychion gyda olygfa berffaith o’r cae. Bron cystal â hen gantri Ffordd Farrar i ddweud y gwir.
Ar ôl cael lluniau o chwaraewyr Abertawe’n cyrraedd a’u danfon ar y lloeren i’r darllediad yn Y Rhyl, roedd hi’n amser i Bryn gymryd ei safle yn y gantri.
Yn anffodus i mi, fel cefnogwr y Swans, nid yn y stadiwm fyddwn i’n gwylio’r gêm ond yn nhryc y lloeren ac ar fonitor bach maint papur A5!
Pob nawr ac yn y man – ac ar ôl pob gôl – byddai Bryn yn clywed gan y cynhyrchydd yn Y Rhyl er mwyn rhoi’r adroddiad diweddaraf o’n gêm ni.
Dyma’r darn hawdd yn fy marn i!
Bolton oedd yn fuddugol o 2-1 ac er fod y gêm ar ben, dyma pryd dechreuodd ein gwaith ni go iawn.
Roedd angen i ni gyfweld â’r rheolwyr ac ambell chwaraewr a chael eu ymateb i’r gêm er mwyn ei ddangos ar y rhaglen oedd yn dod o’r Rhyl.
Roedd hi’n tipyn o ras yn erbyn amser ond yn y diwedd fe lwyddom ni i gyfweld â Joe Allen, Brendan Rodgers ac Owen Coyle.
Ar ôl pob cyfweliad bu rhaid i mi rhedeg yn ôl i dryc lloeren Llion a phwmpio’r cyfweliadau i dryc arall yn y Rhyl.
A chyda’r gêm hwnnw yn mynd i giciau o’r smotyn fe allwch chi ddychmygu fod pethau yn eitha gwyllt yno!
Cafodd y cyfweliadau eu torri gan Gary Pritchard yn Y Rhyl cyn cael eu darlledu ar ddiwedd y rhaglen, ond doedd ein gwaith ni yn Bolton heb ddod i ben eto!
Roedd angen i mi ddewis a dethol yr holl ddigwyddiadau o’r gêm er mwyn gyrru’r lluniau i ITV ar gyfer eu rhaglen uchafbwyntiau.
O’r diwedd … 10 awr ar ôl cyrraedd y stadiwm, roedd hi’n amser mynd adref … gyda llond sâch o dapiau a chyda stadiwm arall wedi ei dicio oddi ar fy rhestr!