
Pwy yw chwarawwr gorau Ewrop, Lionel Messi, Sergio Ramos, Cristiano Ronaldo neu Les Davies?
Diolch i ohebydd papur newydd y Daily Post, Dave Jones, mae’n gwestiwn teilwng i’w ofyn wedi i ymosodwr Bangor ymddangos ar restr hir enwebiadau Chwaraewr Gorau Ewrop.
Mae un gohebydd o pob un o wledydd Uefa yn cael gwahoddiad i enwebu pum chwaraewr ar gyfer gwobr Chwaraewr Gorau Ewrop a Jones yw’r gohebydd penodedig yng Nghymru ac yn ogystal â Messi, Ronaldo, Andrés Iniesta a Joe Hart fe bleidleisiodd Jones am Davies.
Ac mae’r bleidlais honno wedi bod yn ddigon i sicrhau lle’r ‘Tryc’ ar y rhestr hir o enwebiadau a thaith i’r seremoni fawreddog ym Monaco ar 30 Awst.
Llwyddodd Davies, 27, i rwydo 16 o goliau yn Uwch Gynghrair Cymru tymor diwethaf wrth i Fangor orffen yn ail tu ôl i’r Seintiau Newydd, ond mae Jones yn credu fod ei ddoniau yn haeddu llwyfan ehangach.
Ac mae cyn ymosodwr Cymru, Malcolm Allen, sydd wedi gwylio Davies dros sawl tymor yn ei rôl fel un o wybodusion Sgorio, yn cytuno.
“Mae’r sylw mae Les, Bangor ac Uwch Gynghrair Cymru yn ei gael yn gwbwl haeddianol,” meddai.
“Mae gêm Les wedi gwella’n aruthrol tymor diwethaf. Mae ganddo gryfder a phresenoldeb anhygoel yn y llinell flaen.
“Ond mae angen i ymosodwr gael mwy na phresenoldeb, mae angen gallu defnyddio’r presenoldeb yma, ac mae Les yn gwneud hynny.
“Dwi ddim yn meddwl fod na unrhyw amddiffynnwr yn hoffi chwarae yn ei erbyn, ac mae hynny yn glod i Les.”
Yr Archentwr, Lionel Messi, gipiodd y wobr tymor diwethaf gyda Xavi Hernández yn ail a Cristiano Ronaldo yn drydydd.
Rhestr hir enwebiadau Chwaraewr Gorau Ewrop Uefa:
Aguero (Manchester City), Xabi Alonso (Real Madrid), Balotelli (Manchester City), Blaszczykowski (Borussia Dortmund), Buffon (Juventus), Casillas (Real Madrid), Cech (Chelsea), Coentrao (Real Madrid), Davies (Bangor), Drogba (Shanghai Shenhua), Fabregas (Barcelona), Falcao (Atletico Madrid), Hart (Manchester City), Ibrahimovic (AC Milan), Iniesta (Barcelona), Kagawa (Manchester Utd), Kompany (Manchester City), Lampard (Chelsea), Messi (Barcelona), Modric (Tottenham), Ozil (Real Madrid), Pepe (Real Madrid), Pirlo (Juventus), Ramos (Real Madrid), Raul (Al-Sadd Sports Club), Ronaldo (Real Madrid), Rooney (Manchester Utd), Silva (Manchester City), Torres (Chelsea), Y Toure (Manchester City), van Persie (Arsenal), Xavi (Barcelona).