
Ar ôl trechu Manchester United yn Old Trafford yng Nghynghrair Europa yr wythnos diwethaf, mae Athletic Bilbao wedi cael cryn tipyn o sylw yma yn y wasg Brydeinig.
Wrth gwrs, mae gwylwyr cyson Sgorio yn ymwybodol iawn o ddawn a doniau Athletic, ond ar ôl trechu pencampwyr Lloegr a sgorio tair gôl yn y Theatr Breuddwydion honedig, mae gweddill cefnogwyr pêl-droed wedi sylwi bod Los Leones yn dipyn o dîm!
Yn anffodus i Athletic, ni chafodd eu buddugoliaeth lawer o sylw yn y wasg yn Sbaen fore Gwener.
Roedd yn well gan Marca ac AS, y papurau newydd chwaraeon dyddiol yn Sbaen, arwain gyda ffrae Barcelona gyda dyfarnwyr y Primera.
Dyfynu rheolwr Real Madrid, Jose Mourinho, wnaeth AS ar eu tudalen flaen: “El Barça ya critica al árbitro, al final somos todos iguales” – “Mae Barça yn beirniadu’r dyfarnwyr, ond ‘dy ni gyd yn gyfartal yn y pen draw.”
Ond, fel ddywedodd George Orwell unwaith, mae rhai yn fwy cyfartal na’u gilydd!
Er bod yn un o dim ond tri chlwb sydd erioed wedi cwympo allan o’r Primera … does dim gwobr am ddyfalu’r ddau arall … mae Athletic wedi hen arfer byw yng nghysgodion y Blancos a’r Blaugrana.
Mae obsesiwn y wasg gydag operau sebon Real a Barça yn gallu bod yn chwerthinllyd ar brydiau a thra bo’r tudalenau blaen yn llawn o Mourinho a Messi mae pob clwb arall yn brwydro am friwsion.
Ffurfiwyd Athletic gan griw o Saeson oedd yn gweithio yn nociau Bilbao ar ddiwedd y 19fed ganrif a dyna pam fo’r clwb yn defnyddio’r sillafiad Saesneg o Athletic ac nid y sillafiad Sbaeneg, Atlético.
Ac mae’r cysylltiad Seisnig yn parhau gyda llawer i ohebydd Sbaeneg yn disgrifio patrwm chwarae Athletic fel un Seisnig … ac yn dweud hynny mewn ffordd digon dilornus.
Ond er gwaetha’r sarhad parhaol a’r diffyg clod, mae Athletic yn cael tymor llwyddianus ac yn tanio dychymyg eu cefnogwyr am y tro cyntaf, siwr o fod, ers gorffen yn ail i Barcelona ym 1998.
Mae Los Leones o fewn cyrraedd y safleoedd Ewropeaidd yn La Liga, yn rownd derfynol y Copa del Rey ac, wrth gwrs, a chyfle gwych o gyrraedd rownd yr wyth olaf o Gynghrair Europa tra bo’u tîm ifanc o sêr yn denu sylw’r clybiau mawr.
Yn ôl Marca, mae Mourinho eisiau gweld Javi Martinez mewn crys gwyn Real Madrid y tymor nesaf.
‘Dyw hynny ddim yn syndod gan fod y chwaraewr canol cae wedi serenu i Athletic ac i dîm rhyngwladol Sbaen yn ddiweddar, ond yn y blynyddoedd â fu, ‘doedd chwaraewyr Athletic ddim yn symud i’r Bernabéu.
‘Doedd Real Madrid byth yn ceisio denu chwaraewyr o San Mamés gan eu bod yn cymryd yn ganitaol nad oedd unrhyw Fasgwr am wisgo’r crys gwyn oedd yn cael ei weld fel symbol o’r gyfundrefn ffasgaidd o dan Franco.
Wrth gwrs, mae chwaraewr fel Xabi Alonso wedi newid mymryn ar y feddylfryd yma, er mai o Txuri-urdin, Real Sociedad a chochion Lerpwl y cyrhaeddodd Xabi y Bernabéu.
Yn hynny o beth, efallai byddai Athletic yn falch o beidio denu gormod o sylw i’w perfformiadau disglair yn y dyfodol, wedi’r cwbwl, ‘dy nhw ddim am golli gormod o’u sêr!