
Mae’r Gymdeithas Bêl-Droed yng Nghymru wedi cadarnhau mai Geraint Williams yw rheolwr newydd y timau ieuenctid cenedlaethol.
Bu’n chwaraewr canol cae gyda Bristol Rovers, Derby County, Ipswich Town a Colchester Utd – gan hefyd ennill 13 cap i Gymru rhwng 1988 a 1996.
Ers gorffen chwarae mae Williams wedi rheoli Colchester Utd a Leyton Orient.
Bydd yn olynu Brian Flynn ar ôl i’w gytundeb ddod i ben ym mis Mai – ac yn cymryd gofal o’r timau dan 21, 19 a 17.
Dywedodd rheolwr y tîm cenedlaethol, Chris Coleman bod swydd Williams yn holl bwysig wrth geisio creu ‘Y Ffordd Gymreig’ o chwarae – gan efelychu campau Sbaen, Yr Almaen, Ffrainc a’r Iseldiroedd yn y modd mae’r gwledydd wedi bod yn datblygu chwaraewyr ifanc.