Gwylio ar S4C Clic

Cychwyn Iach Cymru

Helsingborgs IF 3-0 Y Seintiau Newydd

Helsingborgs-IF-v-YSN

Daeth taith Y Seintiau Newydd yng Ngynghrair y Pencampwyr i ben nos Fercher wrth iddynt golli yn Olympiastadion Helsingborg.

Yn dilyn gêm ddi-sgôr a pherfformiad campus ar Neuadd Y Parc wythnos diwethaf teithiodd Y Seinitau i Sweden yn hyderus o gael canlyniad, ond roedd hi wastad mynd i fod yn anodd gyda record clybiau Cymru yn chwarae oddi cartref yn Ewrop yn un trychinebus.

Ac roedd tîm Craig Harrison ar ei hôl hi ar ôl saith munud. Cic gornel o’r dde at y postyn pella a’r amddiffynwr, Walid Atta yn curo Steve Evans yn yr awyr a penio i’r rhwyd.

10 munud yn ddiweddarach yn dilyn chwarae da lawr y dde, croeswyd pêl isel mewn i gwrt chwech Y Seintiau, ond methodd Paul Harrison a Simon Spender ei chlirio gan rhoi gôl ar blât i Thomas Sorum i ddwbli mantais y tîm cartref.

Cafodd Y Seinitau cwpwl o gyfleuon, gyda Craig Jones yn disgleirio ar brydrau.

Pan aeth Jones ar rediad hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, curodd dri amddiffynwr cyn bwydo’r bêl mewn i Greg Draper yn y cwrt ond methodd Draper daro’r nôd.

Roedd Y Seintiau’n fwy ymosodol yn yr ail hanner gyda Craig Jones a Chris Jones ar yr esgyll yn achosi problemau i Helsingborgs IF a oedd nawr yn ddigon hapus i eistedd nôl a gwrthymosod.

Ond yn rhy aml roedd y bêl olaf gan Y Seintiau yn siomedig, gyda Chris Jones yn euog am wastraffu sawl cyfle pan mewn safle peryglus.

Roedd Helsingborgs IF o hyd yn edrych yn beryglus gyda amddiffyn Y Seintiau’n ei chael hi’n anodd i ddelio gyda chyflymder a sgiliau technegol y tîm cartref.

Hanner ffordd trwy’r ail hanner, peniodd Alfred Finnbogason yn erbyn y trawst yn dilyn croesiad perffaith o’r asgell dde ar ôl i’r Seintiau fethu a chlirio ymosodiad.

Daeth Ryan Fraughan ymlaen yn hwyr yn y gêm am ei ymddangosiad cyntaf yn Ewrop a ddwywaith torodd tu fewn i’w amddiffynwr ac ergydio ar y gôl ond ni lwyddodd ffeindio cefn y rhwyd.

A gyda’r Seintiau’n taflu chwaraewyr ymlaen yn munudau olaf, roedd hi’n anochel y byddai Helsingborgs IF yn torri’n rhydd, a dyna beth ddigwyddodd pan gariodd May Mahlangu’r bêl tri-deg llath cyn bwydo’r eilydd Alvaro Santos ar ymyl y cwrt.

Crymanodd y Brasiliad y bêl ar y cynnig cyntaf yn berffaith i gornel ucha’r rhwyd gan rhoi dim gobaith i Paul Harrison yn y gôl, gan selio’r fuddugoliaeth i Helsingborgs IF.