S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Rhagolwg: Bangor v Prestatyn

Hwn yw’r penwythnos cyntaf ers i’r gynghrair rannu’n Chwech Uchaf a Chwech Isaf.  

A hithau’n ail dymor y Deuddeg Disglair, mae’r ystadegau’n dangos bod y ras am y Bencampwriaeth yn dipyn agosach y tymor hwn na’r tymor diwethaf.

Yr adeg yma y llynedd, roedd chwe phwynt yn gwahanu Bangor, oedd yn gyntaf yn y gynghrair, a’r Seintiau Newydd, oedd yn ail.

Eleni, dim ond saith pwynt sy’n gwahanu’r pedwar tîm uchaf yn y tabl.

Roedd 20 pwynt rhwng y tîm ar y brig â’r tîm yn bedwerydd y tymor diwethaf pan rannodd y gynghrair yn ddwy.

Gyda cyn lleied yn gwahanu’r timau ar y brig y tymor hwn, fe allai’r tabl newid yn llwyr yn y 10 gêm gynghrair rhwng nawr a diwedd y tymor ar 21 Ebrill.

Ag eithrio Lido Afan, oedd yn chwarae’n yr adran is y tymor diwethaf, dim ond dau dîm sydd â mwy o bwyntiau’r tymor hwn na’r tymor diwethaf.

Mae naw pwynt yn fwy gan Llanelli’r tymor hwn ac yn rhyfeddol, mae gan y Bala 22 pwynt yn fwy na’r adeg yma’r tymor diwethaf sy’n golygu bod tîm Colin Caton wedi ennill pwynt ychwanegol am bob gêm yn rhan gynta’r tymor.

Y ddau dîm sy’n cymharu waethaf gyda’r tymor diwethaf yw Aberystwyth a Chaerfyrddin, y ddau dîm o Ddyfed â naw o bwyntiau’n llai na’r adeg yma’r tymor diwethaf.

Ar ôl wynebu ei gilydd ddwywaith dros gyfnod y Nadolig a Chalan, mae Bangor a Prestatyn yn wynebu ei gilydd eto ddydd Sadwrn, yn y gêm gynghrair gyntaf i’w cynnal ar faes newydd Bangor yn Nantporth.

Mwy > Gêm gyntaf Nantporth

Enillodd Bangor y ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Prestatyn gan sgorio pump gôl yn y ddwy gêm – ennill 5-3 yn y gêm olaf ar Ffordd Farrar ac ennill 0-5 ym Mhrestatyn yn y gêm ganlynol.

Mae Prestatyn ar rediad gwael ac heb ennill yn eu chwe gêm diwethaf ym mhob cystadleuaeth yn cynnwys colli’n erbyn Derwyddon Cefn o’r Gynghrair Undebol yng Nghwpan Cymru’r penwythnos diwethaf.

Mae Bangor wedi ennill y saith gêm gartref ddiwethaf yn olynol yn y gynghrair – fe fydd hi’n ddifyr i weld os gall y Dinasyddion barhau â’r record wych honno yn ail ran y tymor wrth i’w cartref newid o Ffordd Farrar i Nantporth.


  • 15 – Dim ond unwaith mae Prestatyn wedi cadw llechen lân yn yr 15 gêm diwethaf yn Uwch Gynghrair Cymru
  • 14 – Mae Bangor wedi ennill eu 4 gêm gynghrair diwethaf yn olynol, gan daro 14 o goliau
  • 1 – Pwynt yn unig sy’n gwahanu Bangor a’r Seintiau Newydd ar frig y tabl. Roedd y bwlch rhwng cyntaf ac ail yn chwe phwynt wedi 22 o gemau’r tymor diwethaf
  • 40 – Ers i Brestatyn ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2008, mae 40 o goliau wedi cael eu sgorio yn y 10 gêm rhyngddyn nhw a Bangor