
Pam bod y geiriau “a bydd y gemau yn cael eu chwarae ar feysydd niwtral” yn achosi i’r cefnogwr cyffredin golli ei ben yn llwyr? Neu – ai fi yw’r unig un?
Ma’ yna ryw deimlad gwahanol – rhyfeddol wrth wylio’ch tîm mewn stadiwm ddieithr – heb iddi fod yn gêm oddi cartref wrth gwrs. Hyd yn oed os ydych wedi bod i’r stadiwm o’r blaen mae’r profiad yn bleser pur. Rhan fawr o’r cyffro o fynd i faes niwtral yw bod hynny hefyd yn golygu gem fawr i’ch tîm – gem bwysig yn y cwpan. Achlysur mawr.
Ond – y rhan bwysica’ o’r wefr yw’r cyfle prin i fwynhau ar faes clwb arall heb boeni am ymateb y bois lleol. Cofiwch – mae hyn yn fwy na dadl drist am diriogaeth. Yn y bôn – mae hyn yn lot o hwyl. O bosib yn hwyl a sbri plentynnaidd dros ben. Ond yn hwyl ta beth.
Mae’r cefnogwr pêl-droed yn greadur sy’n hoffi patrwm i’w fywyd – ac mae cadw at yr un drefn cyn bob gem yn holl bwysig. Achos fel ŵyr pob gwallgofddyn fe all hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng ennill a cholli.
Efallai bod yr adroddiadau yn y wasg yn dweud mai camgymeriad eiliad ola’r golgeidwad nath newid y gêm – ond i chi’n gwybod yn iawn mai’r penderfyniad i barcio mewn man gwahanol sydd ar fai.
Dyw hyn ddim yn broblem ar faes niwtral. Mae modd i chi barcio ble bynnag sy’n gyfleus – llenwi’ch bol a thorri syched wrth dorri tir newydd. Camu i’r cae o gyfeiriad newydd – defnyddio mynedfa wahanol i’r arfer. Gwylio’r gêm o safle gwahanol. Bwyta pasti ynlle pei ar yr egwyl. Dychmygwch y teimlad o ryddhad.
Cofiwch – dim pob cae niwtral sy’n baradwys pêl droed-aidd. Bydd y ddwy rownd gyn derfynol yng Nghwpan Lloegr unwaith eto yn Wembley. Nawr mae hyn yn synhwyrol o ran Tottenham a Chelsea – y ddau glwb o Lundain. Ond mae llusgo Lerpwl ac Everton o Lannau’r Merswy i lawr i’r de yn hollol wallgof.
Roedd y gemau yma yn arfer cael eu cynnal ar gaeau gogoneddus go iawn fel Parc Villa, Maine Road ac Old Trafford – ac roedd ’na dipyn mwy o ramant yn perthyn i’r gystadleuaeth yn sgil hynny.
Mae cefnogwyr Cymru yn cael bonws bach o daith i lan y môr hefyd ym mhedwar olaf Cwpan Cymru. Mae’r Seintiau Newydd a’r Bala ar daith i Aberystwyth – ac mae’r Rhyl yn gartref am y pnawn i Airbus a Derwyddon Cefn. Dau faes sy’n berffaith ar gyfer y gemau mawr ac sy’n ychwanegu at yr achlysur rywsut. Os chi’n edrych am ramant y cwpan – wel dyma’r gystadleuaeth i chi.
Mae Bala ac Airbus yn ceisio cyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf – ac er bod hi’n anodd credu hynny mae yna saith mlynedd ers i’r Seintiau Newydd godi’r cwpan am y tro olaf. Ond dyw hyn yn ddim i gymharu â Derwyddon Cefn.
Mae’r clwb yn olrhain eu hanes yr holl ffordd yn ôl i’r hen dîm enwog a fu’n rheoli dyddiau cynnar y gêm yng Nghymru – gan golli’r rownd derfynol gyntaf erioed ym 1878. Enillodd Y Derwyddon gwreiddiol y cwpan 8 gwaith cyn eu hymddangosiad olaf ym 1904. Hir yw pob ymaros.
Mae’r uno diweddar rhwng Y Seintiau Newydd a Chroesoswallt yn golygu bo nhw hefyd yn gallu brolio am hen hanes – roedd yna glwb o’r ardal yn cystadlu da’r goreuon yn ystod bore oes y gêm yn ein gwlad. Mae hyn yn golygu bod ’na bosibilrwydd y gwelw ail adrodd rownd derfynol 1901. Ar faes niwtral wrth gwrs!