S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Wythnos brysur yng Nghymru

International Football – Wales new manager Chris Coleman

Dylan Ebenezer sydd wedi profi wythnos a hanner ym mhêl-droed Cymru


Yr wythnos diwethaf ges i gyfle i brofi popeth sydd yn gwneud dilyn pêl-droed yng Nghymru mor gyffrous ar hyn o bryd.

Y mwd a’r baw yn Uwch Gyngrair Cymru – Abertawe yn dangos i Arsenal sut ma chwarae’r gêm – cyffro a thor calon ciciau o’r smotyn ar y Cae Ras – ac yn olaf – ond bwysicaf … penodi rheolwr newydd Cymru.

Dechreuodd y cyfan ar Faes Tegid yn Y Bala – y gêm olaf cyn y toriad yn y tymor wrth i’r tîim cartref groesawi Lido Afan i’r gogledd.

Roedd hi’n bell o fod yn glasur yn yr hanner cyntaf – ond roedd cyflwr y cae yn ffactor enfawr.

Yn l yr hogia lleol roedd hi wedi bwrw yn ddi-baid am 91 diwrnod yn yr ardal – dwi ddim yn hollol siwr os na’i gredu hynny chwaith ond roedd hi’n wlyb dros ben a’r gêm wedi ei gohirio yr wythnos flaenorol.

Gwellodd pethau’n sylweddol yn y ail hanner wrth i’r Bala ennill o 3-1 ac mae’r ffaith bod y rheolwr Colin Caton wedi cryfhau’r garfan eto drwy arwyddo prif sgoriwr Airbus, Ian Sheridan yn argoeli’n dda ar gyfer gweddill y tymor.

Tase fe ond yn gallu arwyddo maes newydd hefyd!

Wedyn ymlaen i Abertawe! Y cyfaddefiad cyntaf yw mod i yn eistedd yng nghanol cefnogwyr Arsenal.

Wel, dyna dwi di bod erioed ac yn rhy hen a hyll i newid nawr! Roedd y Gooners yn nerfus hefyd cyn y gêm – yn bennaf oherwydd perfformiadau anghyson Arsenal tymor yma – ond hefyd gan eu bod yn amau bod Yr Elyrch y dim da.

Cafwyd cadarnhad pendant o hynny wrth i dîm Brendan Rogers dynnu dynion Arsene Wenger yn ddarnau ar adegau.

Roedd na gwyno am y gic o’r smotyn – mwy o gwyno am safon yr amddiffyn ond dim llawer o gwyno am y canlyniad.

Erbyn diwedd y gêm roedd ambell i un o’n cwmpas yn dewis pa un o chwaraewyr Abertawe bydde nhw’n dymuno gweld mewn crys coch a gwyn (Joe Allen!) a rhai hyd yn oed yn sibrwd enw Brendan Roges fel yr olynydd perffaith i Wenger.

Does dim amheuaeth yn fy meddwl i bod Abertawe yn mynd i aros yn yr Uwch Gynghrair tymor yma – y gobaith wedyn yw bod y chwaraewyr yn aros – ac yn fwy na dim – y rheolwr.

Mae hynny yn holl bwysig.

Nos Fercher roedd na gyffro ar y Cae Ras. Wel, nos Fawrth oedd y cyffro i fod ond gohiriwyd y gêm ail chwarae yng Nghwpan Lloegr yn erbyn Brighton oherwydd y tywydd oer.

Roedd hi’n grasboeth yno nos Fercher – dim oherwyddy tywydd ond oherwydd yr awyrgylch.

Bron i 9,000 wedi heidio i’r hen gartref i gefnogi’r Dreigiau sy’n cael tymor gwefreiddiol dan ofal Andy Morrell.

Er colli yn y pendraw ar giciau o’r smotyn roedd hi’n berfformiad arwrol gan Wrecsam ac yn arwydd clir o’u gallu wrth i’r tîm geisio sicrhau dycrhafiad yn ol i’r gynghrair bêl-droed.

Bydd hi ddim yn hawdd rhwng nawr a diwedd y tymor ond mae’r ysbryd yn anhygoel – ar y cae ac oddi ar y Cae Ras a gall hynny gario nhw dros y linell derfyn.

Ac yn olaf … swydd rheolwr Cymru.

Roedd neb eisiau bod yn y gynhadledd i’r wasg ym Mae Caerdydd b’nawn Iau – dim hyd yn oed y rheolwr newydd Chris Coleman.

Dywedodd mai derbyn yr alwad i reoli ei wlad oedd y fraint fwyaf yn ei fywyd ond bod dim achos dathlu oherwydd marwolaeth sydyn a syfrdanol ei gyfaill, Gary Speed.

Roedd y cyn amddiffynwr yn gymeriad cryf ar y cae a dangosodd bod yr un cymeriad yn perthyn iddo fel rheolwr wrth iddo ymddwyn yn urddasol dros ben o ystyried yr amgylchiadau anodd.

Mae hi wedi bod yn gyfnod uffernol ond roedd rhaid symud ymlaen. Cytuno ‘da’r penodiad neu beidio o leiaf bod na derfyn ar y dyfalu. Os nad terfyn ar y dadlau!