Gwylio ar S4C Clic

Cychwyn Iach Cymru

Y Derwyddon â’u rhan yn hanes pêl-droed Cymru

llun trwy garedigrwydd www.wfda.co.uk
Gary Pritchard
  • Gary Pritchard
  • 2 Mai 2012
  • 19:34

Dydd Sadwrn yma bydd Derwyddon Cefn yn camu i’r maes yn rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 108 o flynyddoedd.

Er mai eu gwrthwynebwyr, Y Seintiau Newydd, fydd y ffefrynau clir yn Stadiwm Nantporth, Bangor, roedd ’na adeg pan mai’r Derwyddon oedd yn rheoli y byd pêl-droed Cymreig.

Y Derwyddon o bentref Rhiwabon oedd cewri pêl-droed Cymru ar droad y 19ed ganrif ac mae’n amhosib pwysleisio pwysigrwydd y clwb wrth drafod hanes pêl-droed yng Nghymru pan fo dyn yn ystyried fod y clwb wedi ei sefydlu ym 1869 fel CPD Plasmadoc, saith mlynedd cyn ffurffio Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Ond roedd gan y Derwyddon help llaw yn hynny hefyd gan fod y gŵr a sefydlodd y Gymdeithas Bêl-droed, Llewelyn Kenrick, yn gefnwr chwim a dawnus i’r Derwyddon!

Pan chwaraeodd Cymru eu gêm rhyngwladol gyntaf yn erbyn Yr Alban ym 1876, roedd chwech o dîm y Derwyddon yn y tîm gamodd i’r maes yn Glasgow.

Roedd y Derwyddon yn arloesol hefyd wrth edrych dros Glawdd Offa am wrthwynebwyr o safon ac ym 1876, derbyniodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr eu cais i ddod y clwb Cymreig cyntaf i gystadlu yng Nghwpan FA Lloegr a llwyddodd y clwb i gyrraedd rownd yr wyth olaf ym 1883.

Wedi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, o dan lygaid barcud Kenrick, sefydlu cystadleuaeth tebyg i’r Gwpan FA yng Nghymru, y Derwyddon, ynghŷd â Wrecsam a’r Waun, oedd y clybiau i’w curo.

Llwyddodd y Derwyddon i ymddangos mewn 13 o’r rowndiau terfynol rhwng 1878 a 1904 gan godi’r tlws enwog ar wyth achlysur. Ond mae’r byd pêl-droed wedi gweddnewid ers i’r Derwyddon gamu i faes Y Cae Ras a threchu Aberdâr 3-2 yn eu hymddangosiad olaf yn y rownd derfynol yn ôl ym 1904.

Bryd hynny, roedd cael tîm o’r de yn cystadlu yng Nghwpan Cymru, heb sôn am gyrraedd y rownd derfynol, yn achos dathlu.

Ym 1877, roedd Abertawe wedi gwneud cais i gystadlu yng nghystadleuaeth agoriadol Cwpan Cymru ond, ar ôl dod allan o’r het i wynebu Aberystwyth, fe dynodd y clwb yn ôl ar ôl sylweddoli mai cystadleuaeth bêl-droed oedd y gwpan ac nid cystadleuaeth rygbi!

Bu rhaid disgwyl 12 mlynedd am i glwb arall o’r de i’r Trallwng gynnig eu henwau i bwyllgor Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Erbyn 1889, roedd clybiau pêl-droed yn dechrau ffynnu yn ne ddwyrain Cymru gydag Aberdâr a’r Tŷ Du yn arloesol wrth frwydro ar ran y bêl gron. Ond roedd y gwahaniaeth mewn safon rhwng clybiau’r de a gweddill y timau yng Nghwpan Cymru yn amlwg pan gollodd Aberdâr 15-0 yn erbyn Amwythig yn rownd gyntaf y gwpan ym 1889!

Tra bod dyrchafiad clybiau de Cymru yn y blynyddoedd ers 1904 yn anferth, mae cwymp y Derwyddon wedi bod yr un mor anhygoel.

Fel clwb llawn gwŷr bonheddig, roedd proffesiynoldeb yn wrthyn llwyr i bwyllgor y Derwyddon ac o’r herwydd collwyd nifer o’u chwaraewyr gorau i glybiau dros y ffîn oedd yn fodlon talu’r chwaraewyr i chwarae.

Gyda’r maes ym Mharc Wynnstay yn dechrau disgyn yn adfail dioddefodd y Derwyddon yn ariannol yn y blynyddoedd hyd nes dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Wedi’r Rhyfel Mawr, symudodd y Derwyddon i ymuno â chlwb Rhosymedre gan ffurfio clwb Derwyddon Rhosymedre ond parhaodd eu problemau ariannol ac ym 1923 ymunodd y clwb newydd â chlwb Acrefair United i ffurfio Derwyddon United a symud i bentref Cefn Mawr.

Treuliodd y clwb y 70 mlynedd nesaf yn esgyn a disgyn rhwng sawl cynghrair leol heb fawr o lwyddiant hyd nes i drigolion Cefn Mawr benderfynu y byddai’n llawer gwell i glybiau’r pentref uno er mwyn ceisio sicrhau mymryn o lwyddiant.

Felly ym 1991 ymunodd Derwyddon United â chlwb Cefn Albion er mwyn sefydlu’r clwb presennol, Derwyddon Cefn.

Efallai nad yw’r clwb presennol mor enwog ac mor bwerus ac yr oedd clwb eu cyn deidiau dros 100 mlynedd yn ôl, ond mae’r llinach yn un clir a byddai torri eu henwau ar y gwpan am y nawfed tro yn dipyn o stori!

Llun trwy garedigrwydd www.wfda.co.uk