
Bydd Y Seintiau Newydd yn dechrau’r amddiffyniad o’u coron Uwch Gynghrair Cymru wrth groesawu Airbus UK i Neuadd y Parc ar nos Wener 17 Awst.
A bydd dwy gêm arall yn y gogledd ar y nos Wener wrth i’r newydd ddyfodiaid, GAP Cei Connah, ymweld â’u cyn reolwr Neville Powell a chlwb Bangor ac wrth i’r Bala groesawu Y Drenewydd i Faes Tegid.
Ond yn Stadiwm Genquip bydd gêm fyw gyntaf Sgorio ar brynhawn Sadwrn 18 Awst wrth i Rhys Griffiths gwrdd â sawl hen ffrind o Lanelli yn lifrau ei glwb newydd, Port Talbot.
Dychwelodd prif sgoriwr y gynghrair i Bort Talbot ar ôl chwe thymor gyda Chochion Andy Legg ac mae’r Gwyr Dur wedi cryfhau eu carfan yn sylweddol ar ôl y siom o orffen yn y chwech isaf y tymor diwethaf.
Bydd na gêm ddigon tanllyd ar Barc Waun Dew i ddechrau’r tymor hefyd wrth i Gaerfyrddin groesawu Tomi Morgan a thîm Aberystwyth yn ôl i’r dref.
Lido Afan a’u rheolwr newydd, Paul Reid, sy’n teithio bellaf ar y diwrnod agoriadol wrth iddyn nhw ymweld â lan-y-môr Prestatyn.
17/08/2012
Y Bala v Y Drenewydd
Bangor v GAP Cei Connah
Y Seintiau Newydd v Airbus UK
18/08/2012
Caerfyrddin v Aberystwyth
Port Talbot v Llanelli
Prestatyn v Lido Afan
Mae tîm Sgorio hefyd wedi cyhoeddi rhestr y gemau byw ar gyfer tri mis cyntaf y tymor yn Uwch Gynghrair Cymru.
Ar ôl ymweld â Phort Talbot ar y Sadwrn cyntaf, byddwn yn teithio i’r Maes Awyr ar gyfer ymweliad Caerfyrddin ag Airbus cyn croesi i Nantporth ar gyfer Bangor v Aberystwyth ar 1 Medi.
Gemau Byw Sgorio
18 Awst 2012 – Port Talbot v Llanelli
25 Awst 2012 – Airbus UK v Caerfyrddin
1 Medi 2012 – Bangor v Aberystwyth
8 Medi 2012 – Y Seintiau Newydd v Llanelli
15 Medi 2012 – Y Bala v Prestatyn
22 Medi 2012 – Y Seintiau Newydd v Bangor
29 Medi 2012 – Lido Afan v Y Drenewydd
6 Hydref 2012 – GAP Cei Connah v Y Seintiau Newydd
13 Hydref 2012 – Prestatyn v Aberystwyth
20 Hydref 2012 – Y Drenewydd v Caerfyrddin
27 Hydref – Llanelli v Port Talbot
Ar y diwrnod yma ym 1992 chwalwyd Cymru o 5-1 yng ngêm agoriadol grŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 1994.