S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

Alun Williams

Alun Williams
  • Alun Williams
  • 27 Chwefror 2012
  • 12:39

Pa dîm ti’n ei gefnogi?
Manchester United – a na, ’does dim rhaid i mi gyfiawnhau pam!

Pwy yw/oedd dy arwr pêl-droed?
Mark Hughes. Fel ffan Manchester United a Chymru efallai ei fod braidd yn amlwg mai Sparky oedd fy arwr ond roedd Mark Hughes yn chwaraewr arbennig.

‘Doedd o ddim yn cymryd unrhyw nonsens ond ‘doedd o ddim yn chwaraewr budr. Rheswm arall i’w addoli oedd ei ddawn i sgorio goliau gwych – ‘doedd o byth yn sgorio goliau hawdd ac mae ei gôl i Gymru yn erbyn Sbaen ar y Cae Ras yn esiampl berffaith o’i ddoniau sgorio.

Pwy oeddet ti eisiau bod wrth chwarae pêl-droed ar iard yr ysgol?
Yn amlwg, Mark Hughes oeddwn i eisiau bod, ond weithiau, os oeddwn i eisiau bod yn cosmopolitan, roeddwn i’n esgus bod yn Zico gan mai’r Brasiliad oedd yr un chwaraewr enwog o dramor roedden ni’n gwybod amdano bryd hynny!

Beth yw dy atgof gorau o’r byd pêl-droed?
‘Dwi ddim eisiau bod yn ddiflas, ond fel cefnogwr Manchester United, mae’n rhaid dweud fod y noson llwyddodd United i ennill y treble wrth gipio Cynghrair y Pencampwyr ym 1999 yn un bythgofiadwy.

Roeddwn i’n gweithio fel rep gwyliau yn Ibiza ar y pryd ac roeddwn i wedi ceisio cael llong drosodd o’r ynys i Barcelona ar gyfer y rownd derfynol, ond oherwydd gofynion gwaith bu rhaid i mi anghofio hynny a bodloni ar ei wylio mewn bar … gyda llwyth o Almaenwyr … oedd yn digwydd cefnogi Bayren Munich!

Pwy yw’r chwaraewr gorau ti wedi gweld yn chwarae?
Unwaith eto, mae’n rhaid i mi fynd am un o chwaraewyr Manchester United. ‘Dwi’n cofio mynd i Old Trafford ar gyfer un o gemau cyntaf Cristiano Ronaldo ac roedd yn brofiad anhygoel.

Roedd y dorf yn ysu iddo wneud rhywbeth arbennig pob tro roedd o’n cyffwrdd yn y bêl.

Ond ar lefel mwy personol, ‘dwi’n cofio cael fy syfrdanu gan ddawn Lee Trundle pan oeddwn i’n chwarae i ail dîm Y Rhyl.

Roedd yr ail dîm a’r tîm cyntaf yn ymarfer gyda’i gilydd ac roedd yn anhygoel beth oedd yr hen Magic Daps yn gallu gwneud efo pêl. Roedd o’n gallu gwneud i’w wrthwynebydd edrych fel ffwl wrth redeg o gwmpas bêl ar ei ben neu wrth godi’r bêl dros ei ben wrth redeg!

Mae rhaglen Sgorio wedi darlledu pêl-droed Sbaen ers dros 20 mlynedd bellach – pwy yw’r chwaraewr gorau ti weld ar Sgorio?
‘Dwi’n credu mai Romario fyddai’r enw cyntaf i lamu i’r cof. Roedd o’n allweddol yn nhîm Barcelona gipiodd y bencampwriaeth ym 1994 a chyda’i 30 gôl fe sicrhaodd y Pichichi yn yr un tymor.

‘Dwi’n gallu clywed sylwebaeth Emyr Davies rwan …"Romariooooooooooooooooooooooooooo!"