1 Hydref 2011
Hydref y 1af a’r wawr yn torri – diwrnod Cwpan Cymru ym Merthyr a’r ymwelwyr o’r Barri.
Croesawodd Merthyr eu hen elynion, y Barri, i Barc Penydarren ddydd Sadwrn ar gyfer Rownd Gyntaf Cwpan Cymru.
Ond nid y chwarewyr na’r 90 munud oedd ffocws y diwrnod, ond yn hytrach y gwynebau, y cymeriadau, y gwirfoddolwyr a’r holl derasau.
Wedi’r cyfan, rhain sydd wrth wraidd y gêm yng Nghymru, a hebddyn nhw mi fyddai pêl-droed yn llawer tlotach.