Ar ôl ffarwelio efo Ffordd Farrar mae CPD Dinas Bangor wedi ymgartrefu yn Stadiwm Nantporth ar lannau’r Afon Menai.
Nos Fawrth diwethaf cafwyd y gêm gyntaf yn y stadiwm newydd wrth i dîm Crwydriaid Caernarfon herio’r Dinasyddion yng Nghwpan Cymdeithas Arfordir Gogledd Cymru.