
Ar y diwrnod yma yn 1920 enillodd Ben Beynon ei gap olaf dros dîm rygbi Cymru … ond pam ar y ddaear yda ni’n trafod rygbi ar safle Sgorio?
Yn ogystal â chwarae rygbi’r undeb i’w glwb lleol, Abertawe, roedd Beynon yn chwarae pêl-droed fel chwaraewr amatur i’r Swans hefyd.
Cafodd y maswr ei ddewis i chwarae i Gymru yn erbyn Lloegr yn Sain Helen ym mis Ionawr 1920, ac ar ôl i’r Cymry drechu’r hen elyn cafodd ei ddewis i wynebu’r Alban ar 07 Chwefror 1920
Ond, ni chafodd Beynon gyfle i ennill yr un cap arall dros dîm rygbi Cymru gan iddo arwyddo’n broffesiynol i glwb pêl-droed Abertawe yn ddiweddarach yn y tymor.
Roedd Undeb Rygbi Cymru’n gwrthod ystyried unrhyw athletwr proffesiynol, yn wir fe wrthododd yr Undeb â chyflwyno Beynon â’i ail gap gan gredu ei fod yn broffesiynol cyn iddo cael ei ddewis i herio’r Alban.
Yn rhyfedd ddigon, daeth uchafbwynt ei yrfa bêl-droed cyn iddo droi’n broffesiynol pan sgoriodd unig gôl y gêm wrth i Abertawe o Ail Adran Cynghrair y De drechu Blackburn Rovers o Adran Gyntaf y Gynghrair Bêl-droed yng Nghwpan FA Lloegr yn 1914.
Ym 1922 trodd ei gefn ar bêl-droed ac ar Abertawe gan symud i ogledd Lloegr er mwyn chwarae rygbi xiii i Oldham gan ddod y Cymro cyntaf i chwarae rygbi’r undeb dros Gymru yn ogystal a chwarae pêl-droed a rygbi xiii yn broffesiynol.