
Ar y diwrnod yma yn 1996 dechreuodd un o yrfaoedd rheoli byraf yn hanes y byd pêl-droed.
Syfrdanwyd cefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe wrth iddynt glywed fod cadeirydd y clwb, Michael Thompson, wedi penodi athro ymarfer corff yn reolwr y clwb.
Rheolwr rhan amser tîm ieuenctid Cradley Town o Adran Rhanbarthol Gorllewin Canolbarth Lloegr oedd Kevin Cullis cyn cymryd yr awenau gyda’r Swans … ac roedd hynny’n amlwg!
Deg diwrnod – a dwy gêm yn unig – barhaodd Cullis wrth y llyw.
Collodd ei gêm gyntaf fel rheolwr y Swans 0-1 gartref yn erbyn Swindon ar Chwefror 10fed, cyn colli 4-0 ar daith i Blackpool tri diwrnod yn ddiweddarach.
Beth oedd yn arwyddocaol a hyd yn oed yn chwedlonol am y golled yn Bloomfield Road oedd methiant llwyr Cullis i reoli ei chwaraewyr.
Yn ôl y sôn, yn ystod hanner amser ceisiodd Cullis amlinellu ei sylwadau i’r tîm, ond fe’i anwybyddwyd yn llwyr gan y chwaraewyr, oedd wedi cytuno i beidio â’i gydnabod fel eu rheolwr.
Ymddiswyddodd Cullis yn fuan ar ôl y ffars yma, yn ogystal â’r Cadeirydd Michael Thompson, oedd wedi bod yn ystyried prynu’r clwb.