S4C

Gwylio ar S4C Clic Rhaglen nesaf: 19:40 Dydd Sul, Sgorio: Cymru v Mecsico

19 Ionawr

Sgorio
  • Sgorio
  • 19 Ionawr 2012
  • 11:12

Ar y diwrnod yma ym 1914 llwyddodd Cymru i sgorio gôl rhyngwladol o’r smotyn am y tro cyntaf erioed.

Evan Jones oedd yn chwarae i Bolton Wanderers gafodd y fraint o rwydo’r gôl gyntaf o 12 llath mewn gêm rhyngwladol yn erbyn Iwerddon ar Y Cae Ras, Wrecsam.

Yn anffodus i Jones ac i Gymru, colli oedd yr hanes wedi i Billy Gillespie o Sheffield United rwydo ddwywaith i’r Gwyddelod.

Dyma oedd seithfed cap Jones dros Gymru, ac er iddo rwydo’r gôl hanesyddol, ni chafodd ei ddewis eto, wrth i’r Rhyfel Byd Cyntaf tarfu ar ei yrfa bêl-droed.

Mae’n syndod bod Cymru wedi gorfod disgwyl 23 mlynedd cyn sgorio cic o’r smotyn mewn gêm rhyngwladol. Daeth y gic o’r smotyn yn rhan o reolau’r byd pêl-droed ym mis Mehefin 1891, diolch i gynnig gan Gymdeithas Bêl-droed Iwerddon.

A Gwyddel oedd y chwaraewr cyntaf erioed i rwydo cic o’r smotyn mewn gêm rhyngwladol hefyd pan rwydodd Bob Milne i Iwerddon yn erbyn Yr Alban ym 1896.