Croeso i wefan Y Sioe/08
Goreuon yr wythnos
Chwilio
Newyddion
DAI’N DARGANFOD BETH YW CYFRINACH PENCAMPWYR Y SIOE FRENHINOL
Bydd Dai Jones yn darganfod beth yw cyfrinach llwyddiant pump o bencampwyr Sioe Frenhinol Amaethyddol 2008 mewn rhaglen arbennig ar S4C nos Wener, 21 Tachwedd (8.25pm).
Mae’r rhaglen Pencampwr y Sioe 08 yn rhagflas i raglenni byw ac uchafbwyntiau S4C o’r Ffair Aeaf pan fydd Dai a’r criw a chamerâu S4C yn darlledu’n fyw o faes y sioe yn Llanelwedd ar 1 a 2 Rhagfyr.
Meddai Dai Jones, “Mae’n gryn gamp ennill teitl y Prif Bencampwr mewn unrhyw adran yn y Sioe Frenhinol a byddwn ni’n gofyn beth yw cyfrinach pump o’r prif bencampwyr eleni. Fel y byddwn yn darganfod, nid mater o lwc yw ennill yn y Sioe Frenhinol. Mae’n golygu misoedd lawer o waith paratoi a chenedlaethau o berffeithio brid ac astudio llinach.”
Mae taith Dai yn dechrau ar fferm Tregibby ger Aberteifi lle mae buches Holstein godro Hefin Wilson wedi bod yn ennill prif wobrau yn y sioeau mawr yn gyson ers wyth mlynedd.
Eleni fe enillodd Hefin dair prif wobr, Prif Bencampwriaeth y Gwartheg Godro, Pencampwriaeth Fitzhugh godro a Phencampwriaeth NatWest fel rhan o dîm o bump gyda’i fuches Maude. Cawn ddarganfod sut y dechreuodd ddiddordeb mawr Hefin yn yr Holsteins a sut y datblygodd y fuches.
Mae camerâu cwmni Boomerang yna’n teithio lawr i’r ffin rhwng sir Gaerfyrddin a Phenfro ac i fferm Cilgryman Fawr, Cefn Mynach lle mae Eddie Griffiths a’i fab Dafydd wedi magu enw mawr fel bridwyr gwartheg Limousin. Fe enillodd teulu’r Griffiths Bencampwriaeth Unigol y gwartheg Biff, Pencampwriaeth Fitzhugh i bâr o wartheg a Phencampwriaeth Bîff NatWest fel rhan o dîm o bump Gwartheg Bîff. Mae eu gwartheg Limosuin bellach wedi ennill Camp Lawn y sioeau Royals - Royal Ulster, Royal Highland, Royal Show, Lloegr a’r Royal Welsh.
Fe awn dros y ffin wedyn i Gaerlŷr (Leicester)i gwrdd â Charles Surcombe a enillodd Bencampwr y Pencampwyr yn adran y Defaid am ei hwrdd Charolais, Rockvilla Golden Promise yn y Sioe eleni. Er gwaethaf gwaharddiadau Clwy’r Dafod Las, fe gododd yr Adran hon ei statws fel sioe ddefaid fwyaf Ewrop ac fe gurodd Hwrdd Charolais Charles her gan 45 o fridiau i godi’r brif wobr
Bob blwyddyn mae pencampwr adran wahanol yn derbyn gwobr arbennig am y brid Cymreig gorau ac eleni moch Môn enillodd Gwpan y Frenhines. Cawn ddarganfod beth yw cyfrinach llwyddiant y bridiwr moch o Aberffraw, Phil Fowlie ar ei fferm Y Fron a sut y defnyddiodd y genfaint fwyaf o foch Cymreig y tu allan i Gymru i helpu datblygu ei genfaint Braemor llwyddiannus.
Yn olaf, rydym yn carlamu i fferm Millcroft yn Dawlish, Swydd Dyfnaint (Devon), sydd, er gwaethaf ei leoliad yng ngorllewin Lloegr yn arbenigo mewn Merlod Cymreig. Fe enillodd John Carter a’i deulu nifer o wobrau yn ystod y sioe gyda'r merlen Millcroft Dalhia, gan gynnwys Tlws Tom & Sprightly.









