S4C

Swyddi

Cynorthwy-ydd yr Adran Gynnwys

Y Cynorthwy-ydd Adran fydd yn gyfrifol am gydlynu gweithgaredd gweinyddol yr Adran Gynnwys gan gynnwys timau Comisiynu, Cyflwyno, Rheoli Cynnwys, Digidol, Cynllunio, Promos ag Ymchwil. Ymhlith y dyletswyddau fydd cydweithio'n agos gyda'r Adran Gyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau a'r tîm Materion Busnes er mwyn cadw trefn a chofnod o ddogfennau polisïau'r adran fydd yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan; trefnu a gwasanaethu cyfarfodydd mewnol ac allanol gan gydlynu lleoliadau addas, a chyflenwi dros dro ar y dderbynfa a gweithredu'r switsfwrdd.

Ni fyddwn yn derbyn CV.

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 ar 26 Gorffennaf 2012 at Michelle Holland, Swyddog Adnoddau Dynol, S4C, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU.

Ceir ffurflen gais isod neu drwy gysylltu â Michelle Holland, Swyddog Adnoddau Dynol ar 029 2074 1304 neu drwy e-bostio michelle.holland@s4c.co.uk

Gweithredir polisi cyfle cyfartal.