Neidio at y cynnwys

S4C

Cystadleuwyr

Ian HughesCystadleuydd

Dyddiad Geni: 05/05/1967

Byw: LLanberis

Swydd: Swyddog gweinyddol, Llywodraeth Cynulliad Cymru

Disgrifia dy hun: Cyfeillgar, cymdeithasol, hapus.

Mae Ian yn falch o'r ffaith ei fod yn coginio bwydydd traddodiadol fel cinio dydd Sul ond ei hoff rysáit yw ffiled o gig eidion Cymreig gyda thatws garlleg a grefi gwin coch.

Ei hoff gogydd yw Rick Stein a'i hoff fwyty yw Bodidris Hall, Wrecsam.

Coginio yw un o brif ddiddordebau Ian ond mae'n hoff o redeg mynyddoedd hefyd.

Ian HughesRhaglen Un

Wedi'r dosbarthiadau meistri fe gafodd y deuddeg sioc - sialens o greu Draenog y môr a salsa.

Roedd Ian yn llwyddiannus ac mae o gam yn nes at Tigh Dudley!

Ian HughesRhaglen Dau

Ar ôl blasu gwin efo Arwel Owen o Gwinology roedd hi'n amser y sialens fawr - creu pryd o'u dewis nhw.

Stecen gyda saws madarch gwyllt a thatws garlleg oedd dewis Ian a Shiraz o Awstralia yn paru'n berffaith.

Os hoffech y rysait ewch draw i'r dudalen ryseitiau.

Ian HughesRhaglen Tri

Creu rysait gyda cynhwysion o fewn hanner can milltir i Kinsale oedd y sialens.

Hwyaden, champ neu colcannon a saws o'u dewis nhw.

Dan lygaid craff Carole Norman a Leona Robinson o fwyty Crackpots yn Kinsale roedd Ian yn llwyddiannus a mae o gam yn nes i'r ffeinal.

Ian HughesRhaglen Pedwar

Sialens creu brecwast a Ian yn cael ei baru gyda Wayne a Helen. Llond plât a Peter Maypother o westy'r Blue Haven yn Kinsale yn eitha hapus.

Ond plâ y tri ddim yn cyrraedd y safon felly sialens arall yn wynebu Ian.

Taith i Fishy Fishy ac ar ôl gweld Martin Shannahan yn paratoi cath fôr gyda saws hufen a cranc, tro Ian.

Roedd Ian yn llwyddiannus a mae o gam yn nes i'r ffeinal.

Ian HughesRhaglen Pump

Taith i fygdy Woodcock a sialens nôl yn y ty i greu 3 plât o fwyd wedi fygu.

Ian wedi cael ei baru gyda Wayne ac yn creu platiau gwaetha'r sialens, felly rhaid gwynebu sialens arall!

Kevin Dundon yn beirniadu a sialens y pwdin a soufflé Ian yn fflop a'i daith yn Tigh Dudley ar ben.