Neidio at y cynnwys

S4C

Cystadleuwyr

Ian WilliamsCystadleuydd

Dyddiad Geni: 27/06/1969

Byw: Bethel, Caernarfon

Swydd: Arbenigwr labeli

Disgrifia dy hun: Hogyn bach iawn!

Gwybodaeth Ychwanegol: Mae Ian yn hoffi pob math o goginio ond yn mwynhau bwyta bwydydd traddodiadol megis caserol a phastai cartref orau.

Ei hoff rysáit yw draenog y môr wedi ei ffrio gyda broccoli ac oren a'i hoff gogydd yw Gordon Ramsay.

Heblaw coginio mae Ian hefyd yn mwynhau ymlacio â llyfr da a rhedeg.

Ian WilliamsRhaglen Un

Wedi'r dosbarthiadau meistri fe gafodd y deuddeg sioc - sialens o greu Draenog y môr a salsa.

Roedd Ian yn llwyddiannus ac mae o gam yn nes at Tigh Dudley!

Ian WilliamsRhaglen Dau

Ar ôl blasu gwin efo Arwel Owen o Gwinology roedd hi'n amser y sialens fawr - creu pryd o'u dewis nhw.

Ffiled o gig eidion gyda relish madarch, tatws garlleg â phersli a gwin o ardal Rhone fel Shiraz fyddai'n mynd yn berffaith gyda'r pryd.

Os hoffech y rysait ewch draw i'r dudalen ryseitiau.

Ian WilliamsRhaglen Tri

Creu rysait gyda cynhwysion o fewn hanner can milltir i Kinsale oedd y sialens.

Hwyaden, champ neu colcannon a saws o'u dewis nhw.

Dan lygaid craff Carole Norman a Leona Robinson o fwyty Crackpots yn Kinsale roedd Ian yn llwyddiannus a mae o gam yn nes i'r ffeinal.

Ian WilliamsRhaglen Pedwar

Sialens creu brecwast a Ian yn cael ei baru gyda Steph. Llond plât a Peter Maypother o westy'r Blue Haven yn Kinsale yn eitha hapus.

Ond plâ y ddau ddim yn cyrraedd y safon felly sialens arall yn wynebu Ian.

Taith i Fishy Fishy ac ar ôl gweld Martin Shannahan yn paratoi cath fôr gyda saws hufen a cranc, tro Ian.

Roedd Ian yn anffodus ddim yn llwyddiannus a mae ei daith i Tigh Dudley ar ben.