Neidio at y cynnwys

S4C

Ymgynghoriad 2012 Ymlaen

Cynhaliodd S4C ddiwrnod ymgynghorol gyda'r cynhyrchwyr teledu annibynnol yn Llandrindod ar ddydd Sul 6 Mawrth.

Nod yr achlysur oedd rhannu gweledigaeth S4C ynglŷn ag egwyddorion a strwythur darlledu'r Sianel o 2012 ymlaen. Roedd y diwrnod hefyd yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr gynnig eu syniadau a'u sylwadau i'r Sianel.

Gweledigaeth 2012+ (Cyflwyniad Powerpoint)

Cyflwynodd S4C wahanol fodelau ar gyfer darlledu i'r dyfodol.


Yng nghyfarfod S4C gyda chwmnïau cynhyrchu yn Llandrindod ddydd Sul 6 Mawrth, gofynwyd ar ba ymchwil y seiliwyd y gwaith o lunio gwahanol fodelau darlledu o 2012 ymlaen. Mae'r dogfennau sydd wedi eu hatodi yn cynnig arweiniad am ffynhonnell yr ymchwil a sut y defnyddir y wybodaeth gan S4C. Mae'r ddogfen hefyd yn cynnwys manylion am ddiffiniad yr Awdurdod o bwrpas a nodweddion darlledwr gwasanaeth cyhoeddus. Roedd yr egwyddorion sylfaenol hyn hefyd yn rhan annatod o'r gwaith a wnaed wrth baratoi'r opsiynau.

Cyd-destun ac ymchwil S4C – Strategaeth 2012 / Pwrpas a nodweddion darlledwr cyhoeddus (PDF)

S4C 2012 – Cyd-Destun Ymchwil (Cyflwyniad Powerpoint)

Cwestiynau Ymgynghoriad 2012+ (PDF)

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales