Rhaglenni llawn hwyl a sbri i'r plant lleiaf.
Problem Patsy'r mochyn yw ei bod yn anniben a bod ei ffrindiau wastad yn baglu dros ei phethau ac yn cael anaf. Mae Beti hithau'n anhrefnus yn y swyddfa ac mae Owen yn ei helpu i ffeilio enwau pawb yn y llefydd cywir tra bod Francis yn helpu Patsy i fod yn daclus wrth gadw ei phethau yn y locyr.
Anturiaethau Tomos a'i ffrindiau.
Cyfres gartwn i blant.
Ymunwch â Cadi a'i ffrindiau ar antur hud yn y gyfres gartwn i blant meithrin.
Yn y rhaglen hon teithiwn i Fongolia i gwrdd ag Aisana sy'n chwe blwydd oed. Mae hi'n paratoi i wisgo ei dillad gorau ar gyfer achlysur go arbennig.
Mae Gwydion a Lois yn ymweld â Hafod Haul, ond mae'r ddau'n esgeulus iawn, ac yn gadael sbwriel ar hyd y fferm.
Ar ei diwrnod mawr, fe fydd Millie'n mynd ar daith feics hir gydag Anti Tracey a'i ffrindiau. Mae'n bwysig bod ganddi ddigon o egni i orffen y daith ac felly mae hi'n bwyta bwyd da ac yn gwneud llawer o ymarfer corff i baratoi. Mae hi wrth ei bodd hefyd yn cadw'n heini yn ei gwers ddawnsio bob wythnos. Tybed a fydd ganddi ddigon o egni i orffen y daith?
Mae'r criw yn ceisio achub balwn Lleucs.
Mae Oli yn darganfod Gwgon, octopws mawr coch sy'n awyddus i gadw'i fodolaeth yn gyfrinach.
Rhaglenni llawn hwyl a sbri i'r plant lleiaf.
Anturiaethau Pingu'r pengwin.
Cyfres animeiddiedig i blant meithrin yn dilyn anturiaethau grwp o ffrindiau creadigol ar ynys brydferth Siliwen.
Mae'r delweddau'n newid o un peth i'r llall yn y gyfres weledol hon wrth i bili pala droi'n dylwythen deg a'r dylwythen deg droi'n ddawnswraig bale. Mae'r gerddoriaeth gefndir yn soniarus ac yn cyd-fynd â'r delweddau.
Mae Wibli a Soch Mawr yn dysgu i fod yn deigrod heddiw ac maen nhw'n cael gwersi gan Streipen y teigr bach ffyrnig sy'n hoff o godi ofn ar bawb. Ond tybed beth sy'n digwydd pan maen nhw'n cyfarfod Oli'r eliffant?
A all Bach a Mawr fod o gymorth i bryfyn tân sydd ar goll?
Rhagor o anturiaethau gyda Bob a'r criw.
Heddiw, bydd Lowri'n teithio i fyd cerddoriaeth a bydd Caroline yn mynd â ni i'r jwngwl gyda dawns a chân ac yn dynwared sawl anifail sy'n byw yno. Yna, byddwn yn symud ymlaen i'r cwmwl gêmau i wylio plant yn chwarae cadeiriau cerddorol. Yn olaf, byddwn yn ymweld â Defi Draenog i greu eliffant allan o blatiau papur!
Mae'r Postmon yn galw draw i'r ysgol i sôn wrth y plant am ei waith.
Un bore dydy Mwnci ddim eisiau dihuno, ond mae un o'i ffrindiau'n pallu gadel iddo fynd nôl i gysgu. Wel, os nad yw'n gallu cysgu man a man ymuno yn yr hwyl gyda'r Ceiliog. Cawn ddysgu sut i symud ein pennau, clepian ein hadenydd a chlochdar fel Ceiliog
Anturiaethau Ari'r awyren a'i ffrindiau yn Nhretarri.
Cyfres i gyflwyno bwyd a choginio i blant meithrin. Yn y rhaglen hon, bydd Twts a Martyn yn coginio bisgedi caws.
Rhaglenni llawn hwyl a sbri i'r plant lleiaf.
Mae Dyf y Deifar yn rhoi babi octopws yng ngofal Beth ac Oli ond dyw Dyf ddim yn hapus pan maen nhw'n gadael yr octopws gyda rhywun arall.
Cyfres gartwn i blant.
Caiff Pili Pala gyfle i droedio llwyfan theatr am y tro cyntaf.
Cyfres gelf i blant meithrin. Yn y rhaglen hon mae Twm a Lisa yn creu ffon law . Maent hefyd yn ymweld a Ysgol Penparc lle mae'r plant yn paentio potiau blodau.
Mae Dad yn casglu llond trol o annibendod i Nain. Tra yn y berllan, mae'n gweld afal mawr blasus ac yn penderfynu cael seibiant. Yn y cyfamser, daw Boris a dwyn yr holl annibendod er mwyn gwneud peiriant trin gwallt rhyfeddol! Mae'r peiriant yn llwyddiant i ddechrau ond pan ddaw tro Boris, mae'n ffrwydro! 'Dyw Boris ddim yn hapus ac fe gaiff dad ei holl annibendod yn ôl.
Mae Rapsgaliwn - rapiwr gore'r byd (sy'n odli o hyd!) yn darganfod ble mae adar yn byw yn y bennod hon. Fe fydd yn rapio am ei brofiad ar ddiwedd y bennod yn ôl yr arfer!
Mae'r ffrindiau'n mynd ar daith i'r lleuad ond a fyddan nhw'n llwyddo i ddod adref pan maent yn rhedeg allan o danwydd?
Mae Cadi a Jet yn dechrau deuawd canu pop ond maen nhw'n sylweddoli bod modd cael mwy o hwyl yng nghwmni grwp mawr o ffrindiau.
Ymunwch ag Eleri Siôn heno ar gyfer rhifyn nos Wener o Heno. Yr actores Donna Edwards fydd y gwestai yn y stiwdio a byddwn yn dathlu Diwrnod Neges Ewyllys Da'r Urdd, yn fyw o Gopa'r Wyddfa. Y band Nebula fydd yn ymuno â ni am sgwrs a chân. Hefyd, bydd calendr o ddigwyddiadau'r penwythnos a chystadleuaeth gyffrous.
Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn ymweld ag ardal Ystalyfera yng Nghwm Tawe lle daw'r canu o Gapel y Wern o dan arweiniad Aled Maddocks. Cawn gwrdd ag enillydd cyntaf Cân i Gymru, Doug Roberts, a hefyd Wyn Davies, aelod o gôr Only Men Aloud.
Mari Grug a Dafydd Du sy'n cyflwyno gyda Jon Gower yn pori trwy'r papurau newydd. Bydd Nerys Howell yn paratoi prydau llysieuol a bydd Rachel yn yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne.
Beth all Tigi, Igi, Bip a Bop ei wneud y prynhawn yma? Mi fasen nhw'n hoffi mynd am drip ar y trên neu fynd i siopa, neu i gaffi ond does dim arian ganddyn nhw. Does dim angen poeni, mae gan Igi a Tigi syniad gwych. Ymunwch â'r criw i gael gwybod mwy.
Cartwn sy'n adrodd stori'r hwyaden Wil Cwac Cwac a'i ffrindiau.
Cyfres wedi'i hanimeiddio i blant ifanc, sy'n dilyn helyntion Ffi Ffi a'i Ffrindiau sy'n byw mewn gardd hudol.
Rhaglenni llawn hwyl a sbri i'r plant lleiaf.
Mae'r Warden yn trefnu ei Rodeo flynyddol ond daw morfilod Orca draw a rhwystro'r hwyl.
Cyfres gartwn i blant.
Mae'r anifeiliaid i gyd yn treulio'r noson yn y Goeden Hud gyda Rhacsyn.
Mae Cadi a'i ffrindiau'n teithio i ddiffeithwch Arabia ac yn cwrdd â chamel.
Rhaglenni i'r plant lleiaf: Abadas, Ben a Mali a'u Byd Bach o Hud, Sam Tân, Plant y Byd, Marcaroni.
Mae'r Abadas yn brysur yn chwarae 'ceffylau' pan ddaw Ben ar eu traws. Mae gan air heddiw rywbeth i'w wneud â cheffylau hefyd. Tybed beth all e fod?
Dydy'r Brenin Rhi ddim eisiau dathlu ei ben-blwydd achos dydy e ddim eisiau mynd yn hyn. Ond mae pawb arall yn awyddus i ddathlu'r diwrnod mawr gyda pharti!
Mae hen injan dîm yn ail ymuno â'r tîm ar ôl achub y dydd ar y mynydd.
Dathliad o fywyd plentyn yw Plant y Byd. Mae pob rhaglen yn dilyn hynt a helynt plant ifanc o bedwar ban byd gan roi cip i wylwyr ifanc Cyw o fywyd ble bynnag y bônt ar y blaned hon. Yn wir, cawn weld beth sy'n gyffredin a hefyd yn wahanol ym mywydau plant ledled y byd wrth i ni fynd ar daith liwgar, unigryw a syfrdanol. Gwelwn, er bod profiadau, amgylchiadau ac amgylchedd y plant yn medru bod yn hollol wahanol, yn eu calonnau mae pob plentyn yn debyg, a'u gwên yr un fath ar draws y byd. Yn y rhaglen hon cawn deithio i Mali, Affrica i gyfarfod Mama Kayentan, sy'n bedair oed, a'i dad. Mae'r ddau yn brysur yn casglu mwd o wely'r afon. Wedi casglu'r mwd yn eu basgedi, mae'r ddau yn defnyddio'r mwd i helpu trwsio wal eu cartref.
O diar - mae'r cloc yn y twr wedi colli ei doc. Mae o'n mynd tic ond dydi o ddim yn mynd toc! Mae hynny mor od ag Oli heb ei hodl. Ond na phoener, mae 'na gân ar y ffordd! Pan fydd trwyn Marcaroni'n cosi, bydd y criw yn canu ac yn dawnsio, a'r cloc yn tocian yn ogystal â thician unwaith eto!
Hwyl a sbri a chyfresi di-ri yng nghwmni cyflwynwyr egnïol Stwnsh.
Cartwn yn dilyn Angelo, bachgen deuddeg oed, wrth iddo geisio rheoli ei fywyd gyda help ei ffrindiau.
Yn 'Meindia Dy Fusnes!' bydd 2 dîm yn buddsoddi arian yn eu ffrindiau er mwyn sicrhau'r cyfanswm uchaf o arian posib a'r cyfle i fynd ymlaen i ennill y wobr fawr sef ipad yr un!
Newyddion i bobl ifanc.
Er ei bod hi'n ddiwrnod pen-blwydd Kay does yna ddim lot o awydd dathlu ar y K's hefo'r busnes yn dal mewn trafferthion a Ken yn gweithio bob awr i drio achub eu bywoliaeth. Mae gan ddisgyblion blwyddyn 11 ddathliadau lot fwy difyr ar y gweill, ac ambell i syrpreis i'r athrawon, ar eu diwrnod olaf cyn gorffen ysgol. Dwysau mae amheuon Cathryn am Wyn ac mae hi'n penderfynu trio dod o hyd i'r gwirionedd. Ond mae ei drwgdybiaeth yn arwain at ddamwain allai newid pob dim iddi hi a Wyn.
Mae Colin yn benderfynol o brofi nad fe yw'r lleidr. Daw'r amser i gofio am Brandon wrth i'r fainc gael ei dadorchuddio.
Y Tywydd.
Angharad Mair a Rhodri Owen sy'n cyflwyno ac ar y rhaglen cawn flas o gynhyrchiad diweddaraf Theatr Arad Goch sef 'Guto Nyth Brân. A bydd y cerddor Gareth Potter yn westai.
Penawdau Newyddion a'r Tywydd.
Cân gan Wes Alexander a sgwrs yn esbonio pwysigrwydd cerddoriaeth iddo fel rhyddhad o'i waith bob dydd fel nyrs seiceiatrig.
Gyda'r caffi ar gau gan fod nwy yn gollwng, aiff Kevin a Debbie i Faes y Deri ond mae Mark ar ei ffordd yno hefyd. Mae Iolo yn pellhau wrth Ffion, sy'n peri iddi boeni am ei chyfrinach fawr.
Uchafbwyntiau Gwyl Wanwyn 2012 o Lanelwedd yng nghwmni Shân Cothi a Dai Jones. Cawn edrych ar amrywiol stondinau a chystadlaethau'r sioe ddeuddydd gan roi sylw arbennig i ddatblygiadau a thueddiadau yn y maes ailgylchu a gwyrdd.
Y Tywydd.
Penawdau Newyddion a'r tywydd.
Rhaglen ddogfen ddychanol yn dilyn busnes bach teuluol yng ngogledd Cymru. Mae cwmni 'Run Sbit yn ateb y galw am lookalikes Cymraeg pan fo'r selebs go iawn yn rhy brysur o lawer i gymryd rhan mewn digwyddiadau llai.
Cyfle i edrych ymlaen at gêm ryngwladol gyntaf Chris Coleman wrth y llyw, wrth i Gymru baratoi i deithio i Efrog Newydd i chwarae Mecsico fel rhan o'r paratoadau ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014. Hefyd, uchafbwyntiau rownd derfynol y gemau ail-gyfle a chwaraewyd dros y penwythnos i benderfynu pwy fyddai'n cipio'r safle olaf i gynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.
Rhaglen ar gyfer y rhai sydd am ddysgu Cymraeg.
Wrth i ni edrych ymlaen at y gyfres newydd o cariad@iaith/love5language, cyfle i edrych nôl ar uchafbwyntiau cyfres cariad@iaith y llynedd pan fu Helen Lederer, Josie D'Arby, Sophie Evans, Melanie Walters, Lembit Opik, Colin Charvis, Matt Johnson a Rhys o GLC yn dysgu Cymraeg dros gyfnod o wythnos yn fforest, Cilgerran. Bydd y gyfres newydd yn dechrau nos Fercher gyda selebs newydd sbon.
Y Tywydd.